Covid wedi arwain at newid 'digynsail' mewn troseddu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
twyll talu ar-leinFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae newidiadau sylfaenol yn ein ffordd o fyw yn ystod y pandemig coronafeirws wedi arwain at newid mawr mewn ymddygiad troseddwyr yng Nghymru, medd arbenigwr.

O edrych ar droseddu yn gyffredinol, bu cwymp yng Nghymru yn 2020 yn ystod y pandemig.

Ond mae'r ffigyrau yn awgrymu bod troseddau seibr, stelcian ac aflonyddu wedi cynyddu'n sylweddol.

Dywedodd yr Athro Martin Innes, cyfarwyddwr sefydliad ymchwil trosedd a diogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd, bod yr heriau yn rhai "digynsail" yn yr oes fodern.

Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod 245,591 o droseddau wedi eu hadrodd i heddluoedd Cymru rhwng Medi 2019-2020, sy'n 7% o gwymp ar y flwyddyn flaenorol.

Fe wnaeth nifer y bwrgleriaethau (-18%) ac achosion o ddwyn (-22%) ddisgyn, ond fe wnaeth troseddau stelcian ac aflonyddu gynyddu 11%, ac mae sgamwyr wedi bod yn targedu pobl fregus ac unig mewn twyll ar-lein.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Innes yn rhagweld cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ddiwedd y cyfnod clo

Dywedodd yr Athro Innes bod troseddu wedi bod yn newid yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae'r cyfnodau clo wedi cyflymu'r newid i droseddau digidol, gan gynnwys troseddau'n ymwneud â delweddau anghyfreithlon.

"Mae pobl yn treulio mwy o amser ar-lein ac felly'n fwy tebyg o weld pethau fel hyn, ac wrth gwrs mae mwy o adrodd am droseddau o'r fath," meddai.

Roedd hefyd yn rhagweld y bydd mwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau ar draws Cymru pan fydd rheolau'r cyfnod clo yn cael eu llacio.

"Mae pobl wedi bod yn sownd adre, a bydd dim llawer i bobl wneud wrth i'r tywydd wella," ychwanegodd.

"Yn y tymor hirach fe fyddwn ni'n gweld mwy o siopau gwag a bydd canol trefi'n wahanol iawn... ry'n ni'n gwybod bod siopau gwag fel magned i drwbl."

Cynigion ffug ar-lein

Mae'r heddlu wedi rhybuddio bod troseddwyr yn defnyddio Covid-19 i dargedu pobl fregus.

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd gan Action Fraud yn dangos bod dioddefwyr troseddau seibr yng Nghymru wedi colli cyfanswm o £35.4m yn y 13,000 o droseddau gafodd eu hadrodd ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf ar 23 Mawrth 2020.

Mae swyddogion iechyd a'r heddlu wedi rhybuddio bod rhai'n honni eu bod yn gweithio i'r GIG ac yn cynnig brechlynnau Covid ffug ar-lein am arian neu am fanylion personol pobl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae lefelau cynyddol o drais yn y cartref wedi'u cofnodi yn ystod y pandemig

Mewn un ddogfen mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael wedi rhybuddio am "lefelau cynyddol o drais a thrais yn y cartref yn debyg o barhau" wedi'r pandemig.

Yn ei adroddiad i Banel Trosedd De Cymru dywedodd Mr Michael: "Mae maint y dirywiad economaidd a'r gyfradd o wella fydd yn dilyn yn siapio'r tirlun troseddu yn y tymor canolig a hir.

"Mae pobl yn treulio mwy o amser ar-lein gan gynyddu'r risg o ymosodiadau seibr a thwyll.

"Mae dulliau pobl o dalu am nwyddau hefyd wedi symud yn fwy ar-lein, sydd eto'n agor cyfleoedd i dwyll ar-lein."

Mae Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio bod tensiynau'n parhau yn uchel oherwydd cyfyngiadau Covid, a bod hyn wedi arwain at nifer uchel o droseddau'n ymwneud â'r drefn gyhoeddus, gyda chynnydd mawr hefyd mewn adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl sy'n torri rheolau Covid.

Pan gafodd rheolau eu llacio yng Ngorffennaf ac Awst y llynedd, bu cynnydd mawr mewn ymosodiadau treisgar, a dywedodd yr heddlu bod hynny yn ymwneud yn bennaf gydag alcohol.