Bod yn Gymro neu Gymraes 'yn fwy na jyst lliw dy groen'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Does gan neb hawl i ddeud be' ddylai identity fi fod"

Mae dynes o ogledd Cymru gafodd ei thargedu gyda negeseuon hiliol a sarhaus ar Twitter yn ddiweddar wedi galw ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i wneud mwy i daclo'r broblem.

Dywedodd Nikita Jones ei bod hi ac eraill wedi gwneud cwynion am gannoedd o gyfrifon dros gyfnod o rai dyddiau, gan gynnwys pobl oedd yn cwestiynu ei hawl i alw'i hun yn Gymraes oherwydd ei thras Indiaidd.

Mae Heddlu'r Gogledd bellach yn ymchwilio i'r negeseuon - gan gynnwys sylwadau am lliw ei chroen, a chartŵn sarhaus ohoni hi.

Er i Twitter wahardd rhai o'r cyfrifon a dweud "nad oes lle i ymddygiad hiliol" ar eu platfform, mae Ms Jones yn anhapus fod sawl un o'r cyfrifon eraill yn parhau i fod yno.

'Naeth pobl alw fi'n ape'

Dywedodd Nikita Jones fod y cyfan wedi dechrau ar ôl i un defnyddiwr anfon neges ati yn honni mai dim ond pobl o dras gwyn ethnig Cymreig oedd â'r hawl i alw eu hunain yn Gymry.

Mae Ms Jones yn dod o India yn wreiddiol, ond bellach yn ddinesydd Prydeinig ac yn briod â Chymro.

Wedi iddi hi herio'r sylwadau a gafodd, dechreuodd dderbyn negeseuon sarhaus gan ddefnyddwyr eraill oedd yn "teimlo fel ymosodiad wedi ei dargedu".

"'Naeth pobl ddweud wrtha i am fynd 'nôl i lle o'n i'n dod, galw fi'n ape, dweud fod gwyneb fi a croen fi fel mwd, sylwadau Islamoffobig er mod i ddim yn Fwslim," meddai.

"Roedd o rhywfaint yn sinistr, ond mwy na dim byd oedd o jyst yn flinedig gorfod trio taclo.

Ffynhonnell y llun, Nikita Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Nikita Jones dyma'r tro cyntaf iddi brofi cymaint a hyn o gamdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol

"Nes i ymateb i cwpl o nhw i ddechrau ond wedyn 'oedd rhaid i fi gymryd cam yn ôl achos oedd o'n amlwg fod 'na lot o nhw'n trio targedu fi.

"Nes i gysylltu 'efo'r heddlu achos 'oedd rhai o'r pethau yn mynd yn bersonol iawn."

Cafodd Ms Jones gymorth gan eraill ar Twitter i wneud cwynion am y cyfrifon hynny i'r wefan, ac mae hi hefyd yn llawn canmoliaeth am y ffordd mae Heddlu'r Gogledd wedi delio â'i hachos hi hyd yma.

"Roedd 'na ddau swyddog wrth stepen drws fi o fewn hanner awr, ac 'naethon nhw aros 'efo fi am bron i ddwy awr," meddai.

"Maen nhw hefyd wedi cysylltu dair gwaith ers hynny i weld mod i'n iawn ac heb dderbyn mwy o negeseuon cas."

'Dim lle i ymddygiad hiliol'

Ar y llaw arall mae ymateb Twitter i'r cannoedd o gwynion a wnaed wedi bod yn "warthus", meddai Ms Jones, gyda llai na dwsin o gyfrifon yn cael eu gwahardd yn barhaol neu dros dro.

"I'r lleill i gyd 'naethon nhw ddeud bod nhw heb dorri rules nhw," meddai.

"Dwi'n poeni am hyn achos maen nhw'n gwmni social media sydd yn gadael i atgasedd a misinformation fodoli ar y platfform.

"Mae ganddyn nhw responsibility i beidio chwarae rhan yn creu mwy o niwed o fewn cymdeithas.

"Os ydi pobl yn gallu cuddio tu ôl i gyfrif anonymous maen nhw'n teimlo mwy saff i 'neud sylwadau sarhaus fel hyn heb orfod poeni am y consequences neu gael eu dal."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Twitter nad oedd rhai o'r cyfrifon gafodd eu hadrodd wedi torri eu rheolau

Mae Twitter wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw eu bod bellach wedi gwahardd sawl un o'r cyfrifon, a'u bod wedi diweddaru eu polisïau'n ddiweddar ar sut i ddelio ag atgasedd a hiliaeth ar-lein.

"Does dim lle i ymddygiad hiliol ar Twitter," meddai llefarydd ar ran y cwmni. "Mae gennym bolisïau clir sy'n taclo sarhau ac aflonyddu, bygythiadau ymosodol ac ymddygiad atgas.

"Os ydyn ni'n canfod cyfrifon sy'n torri'r rheolau fe gymerwn ni gamau."

'Bod yn Gymro'n fwy na lliw croen'

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn un o'r rheiny fu mewn cysylltiad â Nikita Jones yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd bod angen "gwneud popeth o fewn ein pwerau... [i] erlyn y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb", gan alw hefyd ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i "wneud mwy i gael gwared ar ddeunydd hiliol sarhaus sy'n cael ei bostio ar-lein".

"Yn ogystal â bod yn wrthun, gadewch i ni fod yn glir - mae hiliaeth yn anghyfreithlon ac mae gan lwyfannau fel Facebook a Twitter a'r gweddill i gyd gyfrifoldeb moesol a chyfreithiol i'w hatal rhag cael eu defnyddio i annog a hybu hiliaeth," meddai.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd fod troseddau casineb ar-lein "yn gallu bod yn niweidiol iawn yn feddyliol i ddioddefwyr, ond hefyd yn gallu arwain at droseddau corfforol mwy difrifol".

"Mae gan y llu hefyd dîm troseddau seibr sydd wedi'i sefydlu i gefnogi a chynorthwyo dioddefwyr, a gweithio gyda chwmnïau cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at niwed ac effeithiau sylweddol casineb ac atgasedd ar-lein."

Ffynhonnell y llun, Nikita Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nikita Jones yn ystyried ei hunaniaeth fel un Indiaidd a Chymreig bellach

Mae Nikita Jones ei hun yn awyddus i bwysleisio'r angen i wahaniaethu rhwng hil rhywun a'u cenedligrwydd.

"Neges fi i'r bobl yma ydi fod bod yn Gymro neu Gymraes yn fwy na jyst lliw dy groen," meddai.

"Mae bod yn Gymry yn rhan o'n ffordd ni o feddwl, cariad tuag at y wlad a'r bobl, a bod yn falch o alw'r wlad yma yn gartref.

"Does gan neb hawl i ddeud wrtha i beth ddylai national identity fi fod jyst achos bod chi ddim yn deall ystyr y gair.

"Dydi galw'ch hun yn ethno-nationalist ddim yn newid y ffaith bod chi'n hiliol ac ignorant.

"Yn bersonol dwi'n gweld national identity fi yn Indian a Chymreig, ac mae hynny'n rhywbeth gwahanol i ethnicity."