Gweithwyr gofal cymdeithasol wedi 'blino' yn sgil Covid
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o bwysau ar staff gofal cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig, medd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Dywed ei llywydd, Nicola Stubbins bod gweithwyr wedi "blino" ac yn "wynebu pwysau parhaol".
Ar un adeg yn ystod y cyfnod clo cyntaf roedd 15% o staff gwasanaethau cymdeithasol cynghorau yng Nghymru yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch.
Dywed Ms Stubbins bod y pandemig wedi amlygu pwysigrwydd a gallu'r gwasanaeth.
Mae'n credu y byddai'r GIG yn gwegian heb weithwyr cymdeithasol, gan fod eu gwasanaeth yn sicrhau nad oes yn rhaid i bobl fynd i'r ysbyty ac mae nhw hefyd yn gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu gadael ysbytai yn ddiogel.
'Gwneud ein rhan yn bwysig'
Mae Andrew Jones yn weithiwr gofal cartref yng Nghyngor Caerffili ac yn darparu gofal i bobl hŷn yn eu cartrefi.
Mae ganddo gyflwr diabetes math 1 a ddwy flynedd yn ôl fe gafodd drawiad ar ei galon.
"Roeddwn yn cysgodi yn ystod y don gyntaf o Covid am 12 wythnos ond nawr rwyf wedi dod nôl ac mae'r sefyllfa yn waeth ond mae'n rhaid i fi wneud fy rhan," meddai.
Mae ei gyd-weithiwr Hilary Evans, sydd ag asthma, hefyd wedi cysgodi am dri mis.
"Ro'n i methu stopio meddwl am ofalwyr y rheng flaen - roedd eu gweld yn gweithio'n ddi-dor yn peri i ni deimlo'n euog, ac felly fe wnaethon ni gynnig ddod nôl.
"Roeddwn yn colli'r gwaith a'r bobl yr oeddwn yn gofalu amdanynt, ac roedd angen i ni wneud ein rhan."
Dywed Seran Wady, sy'n rheoli'r tîm, bod y gweithwyr wedi darparu, ar gyfartaledd, gwasanaeth i 18,459 o unigolion y mis.
"Fel y GIG, rwy'n credu ein bod yn achub bywydau," meddai. "Ry'n yn sicrhau nad oes yn rhaid i bobl fynd i ysbytai ac hefyd ry'n yn hwyluso pethau fel bod cleifion yn gallu dod allan o'r ysbyty.
"Ry'n wedi ymateb yn wirioneddol dda ac mae hynna wedi bod drwy ymroddiad y swyddfa a'r staff gofal."
Mae Fiona Sherlock yn weithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Gwynedd. Ym mis Mai fe gafodd hi ei hun Covid a bu'n absennol o'r gwaith am chwech wythnos.
"Dwi dal ddim yn hollol fi'n hun," meddai, "ond yn well. Un o fy mhrif swyddogaethau yw g'neud yn siŵr fod pobl yn saff - mae nhw'n gweld cymaint ar y teledu ac yn poeni. 'Dan ni hefyd yn trio cadw pobl yn eu cartrefi.
"Gyda'r holl offer PPE mae bywyd wedi newid yn llwyr. Mae pwysau pan mae staff eraill yn sâl, ond mae'r swyddfa yn hynod o dda."
Mae gweithwyr cymdeithasol eraill wedi gorfod newid eu patrwm gwaith yn llwyr.
'Dim sgwrs a phaned'
Mae Alwen Evans yn therapydd galwedigaethol cymunedol yn Sir Ddinbych. Roedd hi'n arfer ymweld â phobl yn gyson yn eu cartrefi ond bellach mae hi ond yn mynd pe bai argyfwng.
"Rwy'n gweithio bellach o fwrdd y gegin ac yn gwneud sesiynau rhithiol. Mae'r gofal yn wahanol ac mewn un achos mae'r newid wedi rhoi mwy o urddas ac annibyniaeth i un person ifanc rwy'n edrych ar ei ôl.
"Does dim amser i gael sgwrs a phaned bellach. Gyda cymaint o bwysau dyw'r gwasanaeth ddim mor wydn ar hyn o bryd."
Mae oddeutu 72,100 o swyddi yn sector gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru sy'n cynrychioli 6% o'r gweithlu. Mae 19,637 o'r rhain yn weithwyr gofal sy'n ymweld â chartrefi.
Mae'r rhan fwyaf o weithwyr gofal yn derbyn isafswm cyflog.
Yn 2016 roedd cyflog gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion ar gyfartaledd oddeutu £16,900 - roedd cyfartaledd cyflog diwydiannau eraill yng Nghymru yn £29,200.
Dywed Nicola Stubbins, sydd hefyd yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yn Sir Ddinbych: "Mae'r pwysau sydd ar weithwyr cymdeithasol ar hyn o bryd yn fwy na dwi erioed wedi'i weld ac yn waeth nag ar unrhyw adeg o'r pandemig.
"Mae nhw wedi blino ond mae nhw'n cadw i fynd.
"Mae'r pwysau sy' 'na i gynnal y gwasanaeth yn mynd yn fwy heriol bobl dydd. Mewn rhai achosion 'dan ni ond yn gallu cyflawni yr hyn sy'n gwbl angenrheidiol.
"Wrth ddewis eu galwedigaeth doedd gweithwyr ddim yn credu y bydde'n rhaid dewis pwy oeddynt am eu helpu."
'Mynd o ddydd i ddydd'
Mae'n ychwanegu bod yna amserau pan nad oedd hi'n bosib darparu gofal i bawb.
"Rwy'n gwybod am achosion yn fy awdurdod fy hun ac ar draws Cymru lle mae uwch swyddogion wedi gorfod ymgymryd â'r rôl o weithio mewn cartrefi gofal er mwyn cadw pobl yn ddiogel," meddai.
Ym Mai 2020, roedd 15% o staff gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch, gan gynnwys Covid-19.
"Mae clywed am achosion a marwolaethau newydd o'r haint wedi bod yn bryder parhaus - yn gyntaf mewn cartrefi gofal ond ers Nadolig yn y gymuned ac mewn cartrefi plant.
"Yn llythrennol ry'n ni'n mynd o ddydd i ddydd gan nad ydym yn gwybod beth sy'n yn ein disgwyl yfory.
"Does dim amser i feddwl na chynllunio o flaen llaw - mae hynny'n hynod hynod anodd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2020