Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2 - 2 Dagenham & Redbridge
- Cyhoeddwyd
Fe fethodd Wrecsam a dal gafael ar fantais o 2-0 wrth i Dagenham & Redbridge daro'n ôl i hawlio pwynt.
Roedd Fiacre Kelleher a Dior Angus yn agos at rwydo dros Wrecsam, cyn i Jamie Reckord eu rhoi ar y blaen.
Dyblodd Reece Hall-Johnson eu mantais, ond cafodd Matt Robinson gôl i Dagenham & Redbridge gyda 13 munud yn weddill o'r gêm.
Fe foddodd y Dreigiau wrth ymyl y lan wrth i gapten yr ymwelwyr, Dean Rance, sgorio yn dilyn croesiad gan Myles Weston.
Wedi'r chwiban olaf dywedodd rheolwr Wrecsam, Dean Keates: "Rydyn ni wedi siomi ein hunain. Anghofiwch y penderfyniadau a aeth yn ein herbyn, fe wnaethon ni'r penderfyniadau anghywir ar adegau hanfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2021