Cymeradwyo pryniant CPD Wrecsam gan sêr Hollywood

  • Cyhoeddwyd
Rob McElhenney a Ryan ReynoldsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi addo buddsoddi £2m yn y clwb

Mae'r cytundeb i werthu Clwb Pêl-droed Wrecsam i ddau o sêr Hollywood wedi cael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Cafodd Ryan Reynolds a Rob McElhenney eu datgelu fel y ddau ddyn busnes oedd am brynu'r clwb gan y cefnogwyr ym mis Medi y llynedd.

Fe wnaeth aelodau o ymddiriedolaeth cefnogwyr y clwb bleidleisio o blaid y ddêl ym mis Tachwedd.

Er i'r ymddiriedolaeth gadarnhau'n flaenorol bod y ddwy ochr wedi cyfnewid cytundebau, roedd angen sêl bendith yr FCA, ac fe ddaeth hynny ddydd Gwener.

'Ynddi am y tymor hir'

Mewn datganiad, dywedodd yr ymddiriedolaeth: "Bydd y ddwy ochr nawr yn gweithio i gwblhau gwerthiant y cyfranddaliadau yn CPD Wrecsam yr wythnos nesaf.

"Hoffem ddiolch i'r cefnogwyr am eu hamynedd yn ystod y broses yma, a gallwn eich sicrhau y bydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn gwneud datganiad llawn pan fydd y broses ar ben."

Mae'r ddau seren eisoes wedi rhoi arian ychwanegol i'r clwb er mwyn cryfhau'r garfan yn ystod ffenest drosglwyddo Ionawr.

Dywedodd cyn-brif weithredwr Clwb Pêl-droed Lerpwl, Peter Moore, sydd wedi bod yn cynghori'r actorion bod y ddau "ynddi am y tymor hir".