Cyngor Gwynedd eisiau prynu 100 o dai i'w rhentu i bobl leol

  • Cyhoeddwyd
Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Dywed adroddiad fod diffyg tai fforddiadwy mewn trefi a dinasoedd fel Bangor, Caernarfon a Phorthmadog

Bydd cynnig sy'n gofyn am ganiatâd i fenthyca £15.4m er mwyn prynu tua 100 o dai a'u gosod ar rent fforddiadwy, yn cael ei ystyried gan gabinet Cyngor Gwynedd.

Dywed Cyngor Gwynedd fod y cynnig yn rhan o "gynllun uchelgeisiol" i ddarparu mwy o lefydd i bobl ddigartref, codi mwy o dai cymdeithasol i'w gosod i bobl leol a dod a thai gwag yn ôl i ddefnydd.

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan y cabinet ddydd Mawrth nesaf, 16 Chwefror.

Ddiwedd Rhagfyr fe wnaeth y cyngor fabwysiadu cynllun tai oedd yn cynnwys dros 30 o brosiectau i "daclo'r heriau ym mhob rhan o'r sector dai".

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd: "Bydd y cynllun yma, sef prynu tai i'w gosod ar rent fforddiadwy i bobl leol, yn helpu oddeutu 100 o unigolion neu deuluoedd i fedru byw yn lleol.

"Ein bwriad ydy cynyddu'r cyflenwad o dai ar gyfer ein pobl er mwyn rhoi cyfle teg iddynt fyw yn eu cymunedau - rhywbeth a fyddai fel arall allan o'u cyrraedd", meddai.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Craig ab Iago: Nod y cynllun yw gosod tai ar rent fforddiadwy i bobl leol

"Bydd y cynllun yn golygu buddsoddiad sylweddol, ac mae'r achos fusnes yr ydym yn ei gynnig yn dangos y bydd y buddsoddiad yn cael ei ad-dalu dros gyfnod o rai blynyddoedd.

"Fe fydd yn gam mawr tuag at ein nod o sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy'n fforddiadwy ac sy'n gwella eu hansawdd bywyd."

Ar hyn o bryd, mae tua 2,700 o bobl ar restr aros am dai yng Ngwynedd.

Dywed Cyngor Gwynedd y bydd yr holl brosiect yn costio £77m.

Un ateb yn ôl y cyngor fyddai codi rhan o'r arian drwy godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi.

Bydd y cyngor hefyd yn ystyried benthyca arian er mwyn prynu cyn-dai cymdeithasol a thai preifat er mwyn eu gosod ar rent.

Pynciau cysylltiedig