Arestio dau ar amheuaeth o lofruddio dyn 23 oed

  • Cyhoeddwyd
Tomasz WagaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i gorff Tomasz Waga ar stryd yn ardal Penylan, Caerdydd

Mae dau ddyn wedi'u harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 23 oed yng Nghaerdydd fis diwethaf.

Cafodd corff Tomasz Waga ei ganfod gan aelod o'r cyhoedd ar Westville Road, Penylan tua 23:30 nos Iau, 28 Ionawr.

Dywed Heddlu'r De eu bod wedi arestio dau ddyn - 23 a 29 oed - ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Maen nhw'n cael eu cadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O'Shea, sy'n arwain yr ymchwiliad fod yr arestiadau'n "ddatblygiad sylweddol" ond fod ymholiadau'n parhau.

Apêl am wybodaeth

"Rydym yn ddiolchgar am yr ymateb gan y cyhoedd hyd yn hyn ond rydym yn dal yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn ardaloedd Ffordd Casnewydd a Westville Road neu'n gyrru trwodd rhwng 22:00 a hanner nos ddydd Iau, 28 Ionawr," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod bod Tomasz wedi teithio o ardal Dagenham ar y dydd Iau i gyfeiriad yn Ffordd Casnewydd, Caerdydd.

"Credwn fod aflonyddwch wedi digwydd tua 22:30 yn y lleoliad hwn, pan yr ymosodwyd arno.

"Mae ymholiadau'n parhau i sefydlu sut y daeth i fod yn Westville Road lle cafodd ei ddarganfod."

Mae teulu Mr Waga wedi cael ei ddiweddaru ac yn parhau i gael ei gefnogi gan swyddogion cyswllt teulu.