Brexit: 84,000 wedi gwneud cais i aros yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Maes awyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £4.5m o gyllid ychwanegol i elusennau sy'n cefnogi ymgeiswyr

Mae tua 83,800 o ddinasyddion tramor yng Nghymru wedi gwneud cais i aros yn y DU ar ôl 30 Mehefin.

Bydd pobl o'r Undeb Ewropeaidd sy'n ymgeisio'n llwyddiannus i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog yn cael yr hawl i fyw a gweithio yma yn y tymor hir.

Ond mae cadeirydd sefydliad yn y sector gofal yn dweud nad oes "rheswm yn y byd i beidio ag ymestyn y dyddiad cau" ynghanol y pandemig.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU hefyd £4.5m o gyllid ychwanegol i elusennau sy'n cefnogi ymgeiswyr.

Daw'r ffigyrau diweddaraf ar gyfer Cymru, o 31 Ionawr, wrth i nifer y ceisiadau ar draws y DU gyrraedd pum miliwn.

Ddechrau'r flwyddyn, dywedodd un o'r cyrff sy'n cefnogi dinasyddion Ewropeaidd bod "tua 6,000" o bobl eto i wneud cais yng Nghymru. Yn y cyfamser, bu cynnydd o 10,000 yn nifer yr ymgeiswyr.

'Y rhan fwyaf' wedi gwneud cais

Dywedodd Kevin Foster AS, sy'n gyfrifol am y cynllun ar Lywodraeth y DU, ei fod yn credu bod "y rhan fwyaf" wedi gwneud cais bellach.

"Achos natur y rhyddid i symud, doedd 'na fyth record benodol o faint o bobl oedd yn defnyddio'r hawl hwnnw ym Mhrydain ar unrhyw adeg benodol," meddai wrth BBC Cymru.

"Ond rydym ni'n hyderus fod y rhan fwyaf o bobl wedi ymgeisio, ac rydym wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol heddiw i'r sefydliadau sy'n derbyn grantiau gennym ni, gan gynnwys yng Nghymru, fel ein bod yn gallu mynd allan yna ac ymwneud â chymunedau i sicrhau ein bod yn cyrraedd pawb, yn enwedig y rheiny sydd fwyaf bregus."

Yn ôl adroddiad beirniadol gan y Joint Council for the Welfare of Immigrants (JCWI) ym mis Ionawr, mae ymdrechion y Swyddfa Gartref i gyrraedd pobl wedi bod yn "annigonol".

Noda'r ddogfen "na all elusennau roi cymorth i bob dinesydd EEA+ sy'n fregus, heb sôn am y rheiny sydd ddim yn cael eu hystyried yn 'risg', fel staff gofal".

Ffynhonnell y llun, Senedd y DU
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kevin Foster AS yn mynnu na fydd y dyddiad cau i wneud cais yn cael ei ymestyn

Ond dywedodd cadeirydd Fforwm Gofal Cymru bod y sector yn "gwegian" ac "angen pob cefnogaeth yn y cyfnod hwn".

"Dwi'n meddwl yn benodol am y rheiny sydd yn y sector ond efallai ddim yn y sefydliadau cartrefi gofal mawr," meddai Mario Kreft.

"Mae'n bosib bod y rhannau hynny o'r sector yn anodd i'w cyrraedd, felly be' ydyn ni am wneud amdanyn nhw, ac am y bobl maen nhw'n eu cefnogi?

"Mae'n bosib eu bod, er enghraifft, yn byw gyda phobl sydd angen gofal a bod trefniadau preifat a lwfans personol - mae llwyth o bosibiliadau.

"Felly dwi'n meddwl bod rhaid sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod pobl yma yn gyfreithlon, eu bod yn gallu parhau i wneud eu gwaith pwysig a does dim rheswm yn y byd i beidio ag ymestyn y dyddiad cau."

Modd gwneud cais ar ôl y dyddiad cau

Ond dywedodd Mr Foster na fyddai hynny'n digwydd, gan ychwanegu bod "miliynau o geisiadau" wedi eu cyflwyno ers i'r arolwg sy'n sail adroddiad y JCIW gael ei gynnal yn gynnar yn 2020.

Bydd cyfle hefyd i ymgeiswyr sydd â "seiliau rhesymol" dros fethu'r dyddiad cau i wneud hynny yn ddiweddarach, gyda rhestr o'r rhesymau dilys i'w gyhoeddi cyn diwedd Mehefin.

"Bydd yn cynnwys, er enghraifft, pobl oedd dan 18 cyn y dyddiad cau sydd heb gyflwyno cais am bod eu rhieni heb wneud hynny," esboniodd Mr Foster, sy'n dweud y bydd ystod y rhesymau yn "eang".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mario Kreft yn poeni y bydd y sector gofal yn colli gweithwyr oherwydd y dyddiad cau

Mae'r £4.5m ychwanegol yn golygu y bydd sefydliadau fel Mind Casnewydd a TGP Cymru yn parhau i gynnig cymorth i ddinasyddion Ewropeaidd yng Nghymru.

Cefnogi'r gymuned Roma mae TGP Cymru, sydd hyd yn hyn wedi helpu "dros 1,000 o bobl".

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dod â grwpiau ynghyd i gynnig cymorth.

'Eisoes yn brin o weithwyr'

Ond mae Mr Kreft yn rhybuddio am oblygiadau methu â chyrraedd pobl yn y sector gofal.

"Os oes un person sydd ag anabledd yn derbyn gofal gan un person sydd bellach methu cynnig y gofal hwnnw, mae'n broblem fawr i'r person hwnnw," meddai.

"Gall hyn ddigwydd i gannoedd neu filoedd o bobl ar draws Cymru a'r DU, felly mae'n fater pwysig iawn mewn sector sydd eisoes yn brin o weithwyr, hyd yn oed heddiw.

"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y dyddiad cau yn addas, bod yr holl help sydd ei angen yn cael ei gynnig i bobl a'n bod ni i gyd yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau hyn - boed hynny'n llywodraethau neu sefydliadau gofal fel Fforwm Gofal Cymru."