Ymchwiliad heddlu i danau ac ymosodiad yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio wedi i "ddau berson ifanc achosi dau dân ac ymosod ar griw ambiwlans" yng Nghaernarfon dros nos.
Cafodd y llu eu galw i Lôn y Parc am 01:34 fore Gwener wedi i griw ambiwlans orfod stopio i gael gwared ar gonau oedd yn rhwystro'r ffordd.
Wrth adael y cerbyd, fe daflodd dau berson ifanc yn eu harddegau gerrig atyn nhw.
Mae'r llu hefyd yn credu taw'r un bobl ifanc wnaeth hefyd roi cwch mawr ar dân yn y doc sych ger Castell Bach ychydig ar ôl 03:00 y bore, gan achosi cryn ddifrod.
Cafodd gwasanaeth tân y gogledd alwad wedyn, am 03:37 y bore, wedi gar gael ei roi ar dân ym Mhenrallt Uchaf yng nghanol y dref.
Mae'r llu'n apelio ar rieni i holi lle oedd eu plant dros nos, ac ystyried "a ddychwelon nhw adref yn yr oriau mân gyda'u dillad yn arogli o danwydd neu fŵg".
Maen nhw hefyd yn apelio am wybodaeth neu luniau dash cam a CCTV yn yr ardaloedd dan sylw.
"Mae'r math hwn o drosedd yn annerbyniol ar unrhyw adeg, ond yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'r gwasanaethau brys o dan bwysau enfawr," dywedodd y Ditectif Ringyll Arwel Hughes.
'Rydym yn trin y digwyddiadau hyn o ddifrif ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a all ein helpu i gysylltu â ni, naill ai drwy ein sgwrs fyw ar y we, dolen allanol neu ar 101."
Mae hefyd yn bosib ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111, gan ddyfynnu'r cyfeirnod Z019947.