Covid-19: 22 marwolaeth arall a 400 achos newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cofnodi 22 yn rhagor o farwolaethau o Covid-19 a 400 o achosion newydd.
Mae'r cyfanswm bellach wedi codi i 5,106 o farwolaethau yng Nghymru.
Mae cyfradd yr achosion newydd wedi gostwng i 99 achos ymhob 100,000.
Dywedodd ICC bod 33,000 yn rhagor wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, sy'n golygu bod 749,445 bellach wedi cael un brechiad.
Mae cyfanswm y rhai sydd wedi cael ail ddos o'r brechlyn bellach yn 4,224.
Niferoedd yr achosion yn gostwng
O'r marwolaethau newydd, cafodd chwech eu cofnodi ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, pump ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe a phedair ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.
Yn ogystal cofnodwyd tair marwolaeth ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, tair arall ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac un ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Mae cyfradd yr achosion ar draws Cymru yn parhau i ostwng. Ceredigion sydd â'r gyfradd isaf o achosion - 33 ymhob 100,000. Y gyfradd yn Sir Benfro yw 46.9, yn Sir Fynwy mae'r gyfradd yn 65.5 ac yn Abertawe mae'r gyfradd yn 67.2
Mae'r gyfradd yn Wrecsam yn 186.1 ymhob 100,000 o bobl ac yn Sir y Fflint mae'r gyfradd yn 161.4 ond er bod y cyfraddau yn uwch na gweddill Cymru mae cyfraddau y ddwy sir wedi gostwng yn ystod y dyddiau diwethaf.
DIWEDDARAF: Ymchwiliad 'fforensig' i achosion o haint De Affrica
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
DYSGU: Dysgu adref gyda Bitesize
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2021