Boris Johnson: 'Sgyrsiau parhaus rhwng llywodraethau'r DU'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Boris Johnson yn ystod ei ymweliad a Chymru ddydd Mercher

Mae llywodraeth y DU yn cynnal "sgyrsiau parhaus" gyda llywodraeth Cymru ynglyn â llacio'r cyfyngiadau Covid-19, yn ôl y prif weinidog y DU, Boris Johnson.

Yn ystod ei ymweliad â Chymru ddydd Mercher, dyna oedd ymateb Mr Johnson pan ofynnwyd iddo a ddylai gwledydd y DU ddod allan o'r cyfnod clo yr un pryd â'i gilydd.

Dywedodd fod llywodraethau Llundain a Chaerdydd yn ceisio "cydgordio ein negeseuon cyffredinol" am y cyfyngiadau.

"Yn union fel yr ydym yn gweithio ar y rhaglen frechu gyda'n gilydd, rydym yn ceisio gwneud yn siwr ein bod yn cydgordio ein dull [o ymdrin â'r sefyllfa]."

"Ar y cyfan os edrychwch chi ar raddfeydd yr haint ar draws y DU, maent yn gostwng ychydig ac mae hynny'n galonogol," meddai.

Effaith brechu

Ychwanegodd fod arwyddion calonogol y gallai'r cynllun brechu wneud gwahaniaeth i'r sefyllfa, ond roedd hi'n dal yn rhy gynnar i fod yn sicr.

Roedd Mr Johnson ar ymweliad â Chwmbran a Phen-y-Bont ar Ogwr, yn cynnwys canolfan frechu a phencadlys Heddlu De Cymru.

Mewn ymateb i'w sylwadau am ddod allan o'r cyfnod clo gyda'n gilydd, dywedodd Eluned Morgan, gweinidog iechyd meddwl a'r Gymraeg y byddai Llywodraeth Cymru yn "gwneud yr hyn sy'n iawn i Gymru" o ran llacio cyfyngiadau.

"Ar adegau, mae [llywodraeth y DU] yn hapus i gysylltu â ni yn eithaf dwys ac ar adegau eraill dydyn nhw ddim yn siarad â ni am fisoedd," meddai Ms Morgan yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd hefyd nad oedd yn siwr a oedd taith Mr Johnson yn cyfri fel taith hanfodol o dan y cyfyngiadau.

Dywedodd Ms Morgan: "Wrth gwrs fe yw prif weinidog y DU ac mae'n rhaid iddo ddod i benderfyniad ei hunan ar hynny.

"Mewn byd delfrydol rwy'n credu y dylai cymaint o bobl â phosib aros adre ac ie, mewn byd delfrydol, efallai y dylai hynny fod wedi digwydd yn yr achos hwn."

Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan yng nghynhadledd ddyddiol y llywodraeth ddydd Mercher

"Mewn byd delfrydol, hoffem fod yn dod allan o'r cyfnod clo gyda'n gilydd, ond ar ddiwedd y dydd byddwn yn gwneud yr hyn sy'n iawn i ni yng Nghymru, a bydd hynny'n dibynnu ar gyfraddau'r haint a pha mor gyflym gallwn gyflwyno'r brechlyn, ac rydym yn gwneud yn anhygoel o dda yng Nghymru."

Aeth ymlaen i ddweud y byddai'r penderfyniadau nesaf yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener ar ddiwedd yr adolygiad 21 diwrnod cyfredol.

Datganoli'n gweithio 'ar y cyfan'

Ym mis Tachwedd y llynedd, cododd ffrae pan ddywedodd Boris Johnson fod datganoli wedi bod yn drychinebus yn Yr Alban. Ond yn ystod ei ymweliad ddydd Mercher, dywedodd nad oedd datganoli wedi bod yn drychinebus "ar y cyfan".

"Mae datganoli yn gallu gweithio'n dda iawn," meddai, "ond mae'n dibynnu'n hollol beth mae'r awdurdodau datganoledig yn ei wneud.

Ychwanegodd fod ganddo brofiad o fendithion datganoli o'i gyfnod fel Maer Llundain.

Dywedodd fod pobl yn gallu gweld cryfder yr undeb yn y ffordd yr oedd y GIG wedi perfformio ar draws y wlad, rôl y lluoedd arfog mewn canolfannau brechu, a'r ffordd yr oedd cyffuriau yn cael eu sicrhau.

Wrth ateb rhai o gwestiynau'r wasg, mae Eluned Morgan yn dweud y byddai Cymru yn llacio'r cyfnod clo ar yr un pryd â gweddill y DU "mewn sefyllfa ddelfrydol".

Ond pwysleisiodd na fyddan nhw'n "rhuthro" i ailagor y diwydiant twristiaeth erbyn dyddiad penodol fel penwythnos y Pasg.

"Rydyn ni yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn benderfynol o sicrhau ein bod ni'n dilyn y dystiolaeth, dilyn y wyddoniaeth a dilyn y data," meddai.

"Dydy hynny ddim wastad wedi bod yn wir yn rhannau eraill y DU."

Ychwanegodd y byddai'n dda petai'r diwydiant twristiaeth yn medru ailagor mewn pryd i groesawu ymwelwyr o Lloegr, ond y byddai Cymru'n gwneud y "peth iawn i ni" er mwyn osgoi cynnydd arall mewn achosion.