Ailagor bwytai a thafarndai 'ddim yn amhosib'
- Cyhoeddwyd
Nid yw'n "amhosib" ailagor bwytai a thafarndai "os fydd pethau'n parhau i wella", meddai'r prif weinidog.
Yn siarad gyda'r BBC brynhawn Gwener, dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn credu bod ailagor y sector yn afrealistig os ydy achosion Covid-19 yn parhau i gwympo.
Ond ychwanegodd y byddai unrhyw lacio ar y cyfyngiadau i'r sector yn digwydd yn "raddol".
Llynedd fe gafodd busnesau lletygarwch agor y tu allan cyn cael croesawu cwsmeriaid dan do.
Daw ar ôl i Mr Drakeford ddweud y gall fod modd llacio'r rheol i "aros adref" ymhen ychydig dros dair wythnos.
Ton arall 'yn debygol'
Dywedodd Mr Drakeford hefyd bod "trydedd don yn debygol iawn rhywbryd yn ddiweddarach eleni".
"Y dasg yw rhoi popeth mewn lle fel y gallwn atal y drydedd don a'i wneud mor fyr â phosib."
Wrth drafod brechlynnau, dywedodd bod pigiadau cyson i gryfhau'r amddiffyniad yn debygol o fod yn angenrheidiol.
"Dwi'n meddwl y bydd pobl yn barod i ddod yn ôl er mwyn cael pigiad atgyfnerthol o'r brechlyn maen nhw wedi ei gael, achos byddwn ni'n gweld faint o wahaniaeth mae hynny'n ei wneud i'w bywydau."
Pan ofynnwyd a oedd manteision mewn parhau i gyd-fynd â gwledydd eraill y DU, dywedodd bod "cyfleoedd gwell" am sgyrsiau drwy gyfarfodydd wythnosol llywodraethau'r DU.
"Ond mae'r cyd-destun yn wahanol. Mae gyda ni tua hanner lefel coronafeirws yng Nghymru o'i gymharu â dros y ffin yn Lloegr, ac mae hynny'n golygu bod rhai posibiliadau'n wahanol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2021