Offer arbenigol heddlu yn arwain at garchar oes

  • Cyhoeddwyd
CCTV image captured on busFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

CCTV yn dangos Walters cyn iddo adael y bws

Yn Llys y Goron Caerdydd mae dyn 39 oed wedi cael ei ddedfrydu i ddau dymor o garchar am oes (i gydredeg) wedi iddo ei gael yn euog o gamgarcharu gyda'r bwriad o geisio cyflawni trosedd rhyw.

Meddalwedd adnabod wynebau arbenigol a lwyddodd i arwain yr heddlu at Craig Walters a hynny drwy gyfuno llun CCTV sâl o Walters ar fws gyda llun 14 mlynedd oed ohono yn y ddalfa.

Clywodd y llys bod Walters eisoes wedi treulio hanner ei oes yn y carchar am ymosod ar ferched a ddydd Gwener cafodd ei garcharu nid am yr hyn roedd e wedi ei wneud ond yr hyn roedd e'n fwriadu ei wneud.

Ychydig cyn 11 o'r gloch ym mis Tachwedd 2019 clywodd y rheithgor bod Walters wedi dilyn dynes 18 oed oddi ar fws yng Nghaerdydd.

Roedd Sara (nid ei henw iawn) ar ei ffordd i gyfarfod â'i chariad a ddim yn gwybod ei bod yn cael ei dilyn ond mewn rhan diarffordd ar y palmant fe ymosododd Walters arni gan roi ei ddwylo dros ei hwyneb a'i dyrnu yn ei hasennau a'i stumog.

Dywedodd Sara ei bod wedi ceisio amddiffyn ei hun a'i bod yn gwybod beth oedd bwriad Walters. Ychwanegodd ei bod yn ffodus bod rhywun wedi ei chlywed yn sgrechian.

Dywedodd y Barnwr Fitton QC y bydd Walters yn gorfod treulio chwe mlynedd o dan glo cyn y caiff wneud cais am barôl ac fe'i disgrifiodd fel dyn hynod o beryglus i ferched - yn enwedig dieithriaid.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Craig Walters ei ddedfrydu ddydd Gwener

Trawsnewid gwaith yr heddlu

Gan gyfeirio at y dechnoleg newydd, dywedodd yr Arolygydd Scott Lloyd o Heddlu De Cymru bod y feddalwedd newydd wedi trawsnewid eu gwaith.

"Cyn i ni gael yr offer yma gallai gymryd hyd at ddeng diwrnod i adnabod rhywun gan y byddai'n rhaid i ni rannu'r llun yn helaeth ond bellach rhyw bum munud ar gyfartaledd mae'n ei gymryd i adnabod person," meddai.

"Mae camgarcharu gyda'r bwriad o geisio cyflawni trosedd rhyw yn drosedd gymharol anghyffredin," medd Bethan Evans o Wasanaeth Erlyn y Goron, "ac yn aml does neb yn cael ei erlyn am ei fod yn anodd cael prawf."

"O ystyried cefndir troseddol Walters roedd hi'n bwysig y tro hwn," ychwanegodd Ms Evans, "ein bod yn erlyn am drosedd a oedd yn adlewyrchu bwriad rhywiol.

"Mae Craig Walters yn unigolyn sydd wedi bod yn dilyn merched yn y tywyllwch ac o gofio'i gefndir mae'n amlwg ei fod yn berson hynod o beryglus."

Ychwanegodd Sara bod y profiad wedi cael effaith emosiynol ofnadwy arni.