Tri wedi'u harestio yng Nghaerdydd yn dilyn 'carchariad ar gam' menyw

  • Cyhoeddwyd
Police jacket

Mae tri pherson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o garchariad ar gam menyw yng Nghaerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru cafodd swyddogion eu galw ar ôl adroddiadau o "fenyw mewn trafferth" am dua 06:40 fore Sadwrn.

Cafodd menyw 27 oed a dyn 35 oed o ardal Pontcanna, a dyn 38 oed o Gabalfa eu cymryd mewn i'r ddalfa.

Dywedodd yr heddlu fod menyw 24 oed "yn ddiogel ac yn iawn".

Mae'r tri sydd wedi eu harestio wedi cael eu cymryd i orsaf heddlu Bae Caerdydd ble fyddan nhw'n cael eu cwestiynu.

Pynciau cysylltiedig