Pro14: Scarlets 41-17 Benetton

  • Cyhoeddwyd
Sam CostelowFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Sam Costelow cyn gorfod gadael y cae gydag anaf i'w ben-glin

Y Scarlets oedd yn fuddugoliaethus ddydd Sadwrn yn ei gêm yn erbyn Benetton.

Mae'r canlyniad yn meddwl fod y Scarlets yn cadw ei obeithion o ennill lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn fyw.

Sicrhaodd y Scarlets pwyntiau bonws o fewn yr hanner awr gyntaf gyda'r ymwelwyr yn cael dwy garden felen.

Sgoriodd y blaenasgellwr Jac Morgan dwy o chwe chais y Scarlets.

Ceisiodd Benetton ymladd yn ôl yn yr ail hanner ond roedd yn rhy hwyr iddyn nhw ennill y gêm yn ôl.

Mae hyn yn fuddugoliaeth fydd y Scarlets yn croesawu ar ôl methu ag ennill gemau ers y flwyddyn newydd.

Mae'r canlyniad yn meddwl fod y Scarlets yn curo Gleision Caerdydd i'r trydydd lle yn adran B y Pro14, tra bod Benetton yn aros ar waelod y tabl ar ôl colli 11 o'i 11 gêm.

Pynciau cysylltiedig