Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd

  • Cyhoeddwyd
A5025 rhwng Y Fali a LlanynghenedlFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi gofyn am glywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd rhwng 20:30 a 22:00 nos Wener

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Ynys Môn.

Cafwyd hyd i Stuart Farnell, oedd yn 38 oed ac o Stockport, yn anymwybodol nos Wener ar yr A5025 rhwng Y Fali a Llanynghenedl.

Dywed yr heddlu fod dyn wedi cael ei arestio a cherbyd wedi ei atafaelu wedi iddo gysylltu â'r llu yn dilyn apêl am wybodaeth ddydd Sadwrn.

Roedd Mr Farnell yn "dad, mab a brawd annwyl gan lawer", medd ei deulu mewn datganiad.

Ychwanegodd y datganiad: "Mae ei golli yn aruthrol i ni ac wedi achosi creithiau na wnaiff wella.

"Mae colli rhywun annwyl yn y fath ffordd yn boen amhosib ei ddisgrifio. Rydym oll wedi'n dryllio gan ei farwolaeth. Mae ei rieni a'i ferch yn dorcalonnus.

"Bydd Stuart yn cael ei gofio'n annwyl gan bawb oedd yn ei nabod fel cymeriad oedd wastad yn gwneud i chi wenu."

Dywedodd y Prif Arolygydd Brian Kearney bod "person lleol" wedi cysylltu gyda'r heddlu brynhawn Sadwrn yn dilyn apêl am wybodaeth

"Cafodd ei arestio yn dilyn hyn a cherbyd ei atafaelu mewn cysylltiad â'r ymchwiliad hwn sy'n parhau," meddai.

Pynciau cysylltiedig