Cyhuddo dyn o gynnau tân bwriadol mewn tŷ ym Miwmares

  • Cyhoeddwyd
Biwmares
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Meigan ychydig wedi 09:00 fore Sadwrn

Mae dyn lleol 56 oed wedi cael ei gyhuddo o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd yn dilyn tân mewn tŷ ym Miwmares dros y penwythnos.

Fe wnaeth Carl Baden Jones ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun, ac mae hefyd wedi'i gyhuddo o dorri gorchymyn atal (restraining order).

Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 22 Mawrth.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Meigan ychydig wedi 09:00 fore Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru na chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.

Roedd dyn a dynes wedi cael eu harestio'n wreiddiol.

Fe wnaeth yr heddlu ganmol ymdrechion diffoddwyr wrth atal y tân rhag lledaenu, gan bwysleisio ei fod yn "ddigwyddiad unigol yn ein cymuned".