Sut ddyn oedd y Cymro ddaeth yn Brif Weinidog Awstralia?
- Cyhoeddwyd
Yn 1915 daeth Cymro Cymraeg, a fagwyd ar lannau Afon Conwy, yn seithfed Prif Weinidog Awstralia a bu ei ddylanwad ar nifer o wledydd y byd yn fawr. Mae ei waddol yn parhau hyd heddiw.
Cafodd William Morris Hughes, neu Billy Hughes fel oedd yn cael ei alw, ei eni yn 1862 yn Llundain. Roedd ei dad yn saer coed oedd yn gweithio fel gofalwr yn Nhŷ'r Arglwyddi ond yn dilyn marwolaeth ei fam cafodd ei fagu yng Nghymru rhwng teulu yn Llandudno a Llansantffraid.
Yn Llandudno bu'n byw gyda'i fodryb Mary Hughes, oedd yn chwaer i'w dad, ym Mryn Rosa, 16 Abbey Road ble mae plac i gofnodi'r ffaith.
Er na chafodd erioed addysg ffurfiol yn y Gymraeg roedd yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn derbyn a gyrru gohebiaeth yn ei famiaith ar hyd ei oes.
Ymfudo i Awstralia
Yn 1884 yn 22 oed ymfudodd i Awstralia ac 17 mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei ethol yn aelod seneddol yn 1901. Daeth yn wleidydd amlwg ac yn 1915 daeth yn Brif Weinidog Awstralia a bu yn ei swydd hyd 1923.
Mae sawl hanes dadleuol am Hughes yn y cyfnod hwn yn ei yrfa gan gynnwys ei agwedd at y boblogaeth frodorol yn Awstralia a fyddai'n gwneud i gymdeithas heddiw deimlo'n anghysurus iawn.
Un sydd wedi ymchwilio i hanes y Cymro rhyfeddol hwn, ac yn taflu goleuni ar y dylanwad mawr a gafodd yma ym Mhrydain a ledled Ewrop yn chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif, yw Gwion Owain o Glynnogfawr. Roedd Billy Hughes yn gefnder i'w hen nain.
"Aderyn drycin go iawn oedd Billy Hughes," dywedodd Gwion. "Roedd yn cael ei ystyried yn wleidydd tanbaid a dadleuol ond hefyd deallus ac effeithiol iawn yn ystod ei yrfa yng ngwleidyddiaeth Awstralia.
"Bu'n Aelod Seneddol am dros hanner can mlynedd ac yn aelod o chwe phlaid wahanol gan arwain pump ohonynt a'i wahardd o dair arall. Mae dadlau dros ei enw da a'i waddol gwleidyddol ymysg haneswyr yn Awstralia hyd heddiw.
"Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf sefydlwyd cytundeb rhyngwladol Versailles rhwng y Cynghreiriad a'r Almaen. Cafodd ei arwyddo yn Versailles, Ffrainc, ar ddiwedd Cynhadledd Heddwch Paris, ar 28 Mehefin yn 1919.
"Roedd Awstralia, fel aelod o'r Ymerodraeth Brydeinig, â'r hawl i yrru dirprwyaeth i'r gynhadledd. Ag yntau'n Brif Weinidog anfonwyd Billy Hughes i arwain y ddirprwyaeth o Awstralia.
"Ar y pryd roedd effaith y colledion enbyd a ddioddefodd Awstralia yn ystod ymgyrch y Dardanelles lle gwelwyd brwydro mawr rhwng y Cynghreiriaid a lluoedd Twrci, wedi creu ymdeimlad cenedlaethol newydd. Â gwynt yr ymdeimlad hwnnw yn ei hwyliau cyrhaeddodd Hughes y gynhadledd ym Mharis yn llawn hyder."
Eisiau 'cosbi'r' Almaen
Soniai Gwion, sydd yn gynhyrchydd a pherchennog cwmni teledu Awen TV, am ddylanwad Hughes yn y cyfarfod hwnnw, a'i arweinyddiaeth wedyn.
"Mae dwy agwedd o strategaeth Hughes yn y gynhadledd a brofodd yn bellgyrhaeddol iawn. Yn gyntaf roedd am sicrhau bod Yr Almaen yn cael ei chosbi drwy ad-daliadau llym yn dilyn y Rhyfel.
"Yn ail, roedd am sicrhau na fyddai'r Racial Equality Clause yn Siarter Cynghrair y Cenedlaethau - y League of Nations - yn gwahardd mudo i Awstralia o Asia, ac yn arbennig felly o Japan.
"Mae'n deg dweud taw Hughes oedd y mwyaf hebogaidd o'r mynychwyr ar ran yr Ymerodraeth Brydeinig. Polisi Prydain ar y pryd oedd peidio â chosbi'r Almaen drwy'r Reparations, y taliadau a wneir gan y collwr i'r buddugwr mewn rhyfel.
"Un o brif gynghorwyr Lloyd George yn y Gynhadledd oedd yr economegydd enwog John Maynard Keynes oedd yn danbaid dros beidio cosbi'r Almaenwyr gan ei fod yn rhagweld effeithiau gwleidyddol y dinistr economaidd y byddai yn dilyn.
"Ar ddiwedd y Gynhadledd cyhoeddodd Keynes ei lyfr enwog The Economic Consequences of The Peace a'i gwnaeth yn enwog nid yn unig fel economegydd ond hefyd fel sylwebydd doeth ar faterion gwleidyddol a fel ffigwr deallusol o bwys mawr yn yr 20fed ganrif.
"Mae'n rhaid hefyd cydnabod rôl gŵr ifanc arall a gafodd effaith pellgyrhaeddol ar yr 20fed ganrif yn yr hanes yma, sef Keith Murdoch. Newyddiadurwr ifanc oedd Murdoch a benodwyd yn ohebydd swyddogol Awstralia yn y Rhyfel.
Dylanwadu ar Lloyd George
"Wedi'r Rhyfel roedd gan Murdoch berthynas agos iawn efo Lord Northcliffe, perchennog y Mail a'r Mirror, ar un llaw, a gyda Billy Hughes ar y llaw arall. Roedd Northcliffe o'r un farn â Hughes ar fater yr Almaen a threfnwyd cyfres o areithiau tanbaid gan Hughes ym Mhrydain a'i gwnaeth yn hynod o boblogaidd gyda'r cyhoedd gyda rhai yn dadlau y dylai ddod yn Brif Weinidog Prydain!
"Effaith yr areithiau yma oedd newid y farn gyhoeddus ym Mhrydain i'r graddau y bu rhaid i Lloyd George newid polisi Prydain o blaid cosbi'r Almaen.
"Er nad oedd Hughes yn un o'r Big Four yn y gynhadledd sef Lloyd George (Prydain), George Clemenceau (Ffrainc), Woodrow Wilson (Yr Unol Daleithiau) a Vittorio Emanuele Orlando (Yr Eidal) roedd ei ddylanwad yn llawer mwy na grym gwleidyddol Awstralia.
"Ar fater y Racial Equality Clause bu iddo ddadlau gyda Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, i'r graddau bod Wilson yn disgrifio Hughes fel 'pestiforous varmint'! Ond Hughes a orfu."
Mae gwaddol Billy Hughes yn y Gynhadledd Heddwch yn un dadleuol hyd heddiw a hynny'n rhannol oherwydd ei ddefnydd o'r Gymraeg. Meddai Gwion Owain: "Roedd Governor General Awstralia, Sir Ronald Munro Ferguson, yn anniddig iawn fod Hughes yn defnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu yn uniongyrchol â Lloyd George fel modd o dorri Ferguson allan o'r trafodaethau. Serch hynny, dyma oedd disgrifiad Ferguson ohono:
'...not unlike his countryman Lloyd George. His judgement is better, his insight clear; his capacity for affairs great. He is highly strung and at times violent. I have always found him agreeable. Few men are more entertaining. He stands out above his own party in intellect, courage and skill.'
"Ar ddiwedd y gynhadledd gyda'r Cytundeb Heddwch yn barod i'w arwyddo sylweddolodd Hughes nad oedd gan Awstralia sêl i'w roi ar y cytundeb fel y gwladwriaethau eraill a gorfu iddo frysio allan i siopau hen greiriau a bric-a-brac ym Mharis i brynu ryw hen grair fyddai'n gwneud y tro!
"Aeth Maynard Keynes yn ei flaen i fod yr economegydd mwyaf dylanwadol hanes ac aeth Keith Murdoch yn ôl i Awstralia i gychwyn yr ymerodraeth newyddiadurol y mae ei fab Rupert yn ei redeg heddiw."
Er cymaint o glodfori a wneir am Hughes am fod yn wleidydd craff a dylanwadol mae eraill yn honni bod ei weithredoedd wedi creu sefyllfaoedd cwbl negyddol yn Ewrop a phen draw'r byd.
Fel yr eglurai Gwion Owain: "Effaith cosbi'r Almaen oedd cyfnod hir o chwyddiant mawr a arweiniodd at dwf Natsïaeth yn yr Almaen. Yn yr un modd roedd colli'r Racial Equality Clause o Siarter y League of Nations yn un o'r rhesymau dros ddyfodiad gwleidyddiaeth eithafol y 1930au yn Japan a'i harweiniodd i'r Ail Ryfel Byd a'i holl erchyllterau.
"Mae tueddiad ynddon ni'r Cymry i ymfalchio yn ein hanes heddychlon a gweld ein hunain fel 'gwlad y menyg gwynion'. Ond gwahanol iawn ydi gwaddol Billy Hughes - ac roedd o hefyd yn Gymro."
Hefyd o ddiddordeb: