Dylai cartrefi 'gael peidio cyflogi staff heb frechiad'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Elderly person looking out of windowFfynhonnell y llun, Getty Images

Dylai cartrefi gofal yng Nghymru gael yr hawl i wrthod cyflogi staff sydd heb gael brechlyn Covid-19 heblaw bod ganddyn nhw reswm dilys, meddai arweinwyr gofal cymdeithasol.

Dywed Fforwm Gofal Cymru, sy'n cynrychioli bron i 500 o ddarparwyr annibynnol, ei fod yn hollbwysig amddiffyn preswylwyr bregus, yn enwedig oherwydd eu bod nhw'n bennaf yn hŷn a'n hawdd eu niweidio ac hefyd yn byw gyda chyflyrau iechyd ychwanegol.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos ers 1 Mawrth y llynedd bu farw 1,709 o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru o ganlyniad i achosion a gredir neu a oedd wedi'u cadarnhau i fod yn gysylltiedig â Covid-19.

Dywed Llywodraeth Cymru bod ymweliadau i gartrefi gofal yn dal wedi'u cyfyngu i'r tu allan a phodiau ymweld yn unig tra bod cyfyngiadau Lefel 4 dal i fod mewn grym ar draws Cymru.

Credir fod tua 20% o staff cartrefi gofal yng Nghymru heb gael brechlyn eto.

Dywedodd cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, Mario Kreft MBE fod angen gwneud mwy i sicrhau bod canran uwch o staff yn cael y brechlyn oherwydd ei fod yn glir bod rhai yn gyndyn i'w gael.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mario Kreft bod rhai cartrefi gofal yn ei chael hi'n anodd annog eu holl staff i gael brechlyn

Dywedodd Mr Kreft: "Rwy'n credu bod yna bryderon cyffredinol ar draws Cymru. Mae rhai cartrefi'n gwneud yn dda iawn, rydyn ni wedi clywed straeon o 100% yn cymryd [brechlyn], ond mae eraill yn ei chael hi'n anodd.

"Ond un person mae'n cymryd i ddod ag un o amrywiolion newydd y feirws mewn i [gartrefi] bobl fregus.

"Rydw i'n credu dylai pawb sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, heblaw bod ganddyn nhw reswm da iawn arall, gael y brechlyn ac yn bwysicach fyth eu bod nhw'n barod am gyfnod ble fydd falle angen cael hyn yn flynyddol am rai blynyddoedd."

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n credu bod nawr angen i ni fod yn weithgar eto fel ein bod yn gallu parhau i ddiogelu ein preswylwyr a'n staff o'r feirws llethol yma.

"Mae'n amlwg ei fod yn synhwyrol i feddwl y dylai cartrefi gofal allu gwrthod cyflogi unrhyw un sydd heb gael brechlyn.

"Mae'n eglur, a'n ddealladwy, y bydd teuluoedd preswylwyr eisiau sicrhad bod staff sy'n edrych ar ôl eu hanwyliaid wedi eu brechu fel eu bod yn llai tebygol o basio'r feirws ymlaen."

'Diogelu eich hunan a'ch teulu'

Ychwanegodd aelod o Fforwm Gofal Cymru, Sanjiv Joshi y dylai staff cartref gofal fod yn "rhuthro" i gael y brechlyn, heblaw fod ganddyn rheswm dilys.

"Os rydych chi'n gweithio mewn cartref gofal, eich tasg yw i ofalu a diogelu eich preswylwyr - dyna eich addewid sobor," meddai Mr Joshi.

"Mae'r wyddoniaeth yn glir iawn... mae'r brechlyn yn lleihau symptomau difrifol a'r nifer o farwolaethau.

"Nid yn unig ydych chi'n diogelu eich preswylwyr, ond rydych chi hefyd yn amddiffyn eich hunan a'ch teulu.

"Oes oedden ni'n delio gyda'r frech wen byddai neb yn dadlau am yr angen i gael pigiad - dylwn ddim anghofio yn y DU rydyn ni'n barod wedi cael 25,000 o farwolaethau'n gysylltiedig â Covid-19 mewn cartrefi gofal."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Swydd gweithwyr gofal yw i ddiogelu preswylwyr, yn ôl Sanjiv Joshi

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn cydnabod pwysigrwydd galluogi teulu ac anwyliaid i allu ymweld â phreswylwyr cartrefi gofal, ond bod cyfyngiadau ar ymweliadau yn dal mewn grym am y tro.

"Rydyn ni'n ystyried sut i sicrhau mwy o ymweliadau yn sgil llwyddiant ein rhaglen frechu i breswylwyr a staff cartrefi gofal," meddai.

Ond ychwanegodd: "Ar hyn o bryd ni ddylai ymweliadau tu fewn gael eu caniatáu heblaw am mewn amgylchiadau eithriadol.

"Mae hwn wedi parhau i fod yn y sefyllfa trwy gydol y pandemig.

"Gyda chyfyngiadau Lefel 4 mewn grym, gall ymweliadau y tu allan ac mewn podiau ymweld cymryd lle ar ôl i asesiad risg gael ei wneud."

Pynciau cysylltiedig