Annibyniaeth i'r Alban?

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr annibyniaeth i'r Alban gyda fflagiau'r Alban, a chefnogwyr dros aros yn rhan o Brydain gyda fflagiau Jac yr UndebFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth i'r Albanwyr baratoi i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd mewn llai na thri mis, mae'r dadlau am ail refferendwm annibyniaeth yno yn poethi.

I ddau sydd wedi symud i fyw o Gymru i'r Alban, er eu bod yn anghytuno ar y cwestiwn mawr, maen nhw'n gytûn ar un pwynt: doedden nhw ddim yn disgwyl pleidlais arall ar y mater mor fuan ar ôl yr un diwethaf.

Nôl yn y 2014 pan benderfynodd yr Albanwyr o 55% i 45% o blaid aros yn yr Undeb, roedd y refferendwm yn cael ei galw yn bleidlais 'unwaith mewn cenhedlaeth'.

Saith mlynedd yn unig yn ddiweddarach ac mae refferendwm yn bwnc llosg eto a'r SNP yn debygol o alw am bleidlais arall ar ddyfodol y wlad os mai nhw fydd yn llywodraethu ar ôl etholiadau mis Mai.

Ceri Green
Llun cyfrannwr
Mae'r economi yn waeth rŵan nag beth oedd e chwe blynedd yn ôl
Ceri Green

Mae Ceri Green yn byw yn nhref Helensburgh, 30 milltir o Glasgow.

Er nad oedd o'n rhagweld ail refferendwm mor fuan â hyn pan bleidleisiodd yn 2014, tydi o ddim yn synnu'n fawr chwaith yn sgil dau newid sylfaenol yn y byd gwleidyddol.

Brexit ydy'r cyntaf, gan fod yr Albanwyr wedi pleidleisio i aros yn Ewrop ond yn gorfod gadael gyda gweddill Prydain. Y ffactor arall, meddai, ydy'r gŵr wnaeth arwain yr ymgyrch Brexit - Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

"Os oes un math o berson sy'n gwneud i'r Albanwyr fod yn grac, yna fe ydy e. Fe yw'r epitomy o beth dydy Albanwyr ddim yn hoffi ac mae'n cael effaith ar farn pobl am aros yn rhan o Brydain," meddai Ceri Green.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Boris Johnson yn cyfarfod aelodau o'r fyddin fis diwethaf mewn canolfan brechu yn Glasgow. Pwysleisio pwysigrwydd parhad yr Undeb oedd gwir bwrpas y daith meddai rhai sylwebyddion

Draw ar Ynys Ìle (Islay), oddi ar arfordir gorllewin y wlad a lle mae tua chwarter y boblogaeth yn dal i siarad Gaeleg, mae'r garddwr Neil Baker yn byw.

Mae'n dweud nad oedd canlyniad refferendwm 2014 wedi rhoi stop ar y trafodaethau am annibyniaeth, ond bod Brexit wedi cynyddu'r dadlau.

Mae ei blant, sy'n 19 ac 17 oed, yn brawf o'r newid barn meddai:

"Y tro diwethaf doedden nhw ddim yn siŵr am annibyniaeth, ond nawr maen nhw wir moyn annibyniaeth, ac mae'r newid yna yn tanlinellu beth mae'r polau piniwn yn ddweud. O'r hyn mae fy mhlant yn ddweud, Ewrop yw'r rheswm. Maen nhw'n grac bod nhw wedi eu tynnu allan yn erbyn eu hewyllys.

"Cyn y refferendwm diwethaf roedd pobl yn defnyddio Ewrop fel arf yn erbyn annibyniaeth yn dweud 'os ydych chi'n pleidleisio i adael Prydain fyddwch chi'n gadael Ewrop' - ac wrth gwrs fel arall oedd hi."

Map: Lleoliadau Helensburgh ac Ynys Ile

Doedd gan Ceri Green ddim amheuaeth sut oedd am bleidleisio yn y refferendwm diwethaf: roedd yn gryf yn erbyn annibyniaeth a tydi o heb newid ei farn.

Mae'n dweud mai dyna'r farn ymysg ei ffrindiau yn yr ardal hefyd, ond mae'n pwysleisio mai pobl wedi ymddeol, ac yn eithaf cyfforddus yn economaidd, ydi'r rhan fwyaf o'r rheiny.

Rhesymau economaidd oedd yn llywio'i farn y tro diwethaf, a dyna ydi'r prif reswm o hyd.

"Roedd gobaith tro diwetha' gan yr SNP y byddai prisiau olew yn codi a byddai digon o arian, ond tydi'r SNP hyd yn oed ddim yn disgwyl hynny - mae'r economi yn waeth rŵan nag beth oedd e chwe blynedd yn ôl."

Mae'n dweud bod Albanwyr yn talu mwy o dreth incwm yn barod na phobl Cymru a Lloegr - ac mae'n credu mai cynyddu fyddai hynny o dan annibyniaeth. Yn ôl Ceri Green mae'r wlad yn cael mwy o arian gan Lundain o dan Fformiwla Barnett na'r hyn mae'n gyfrannu - er bod rhai o blaid annibyniaeth yn dadlau fel arall.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan y llynges yn Faslane, lle mae llongau tanddwr niwclear Prydain yn cael eu cadw, yn gyflogwr pwysig yn ardal Helensburgh

Mae'n anghytuno gyda'r ddadl bod gan yr SNP hawl i gynnal refferendwm os mai nhw fydd yn sefydlu llywodraeth ar ôl etholiadau Holyrood mis Mai.

"Mae multi-party system yma, felly bydden nhw'n gallu mynd i mewn heb gael mwyafrif y bobl yn pleidleisio iddyn nhw.

"Os fydde nhw'n mynd i mewn efo mwy na 50% o'r bleidlais, wedyn ocê efallai adeg hynny byddai'n bosib dadlau bod hawl 'da nhw - ond dwi ddim yn gweld hynny'n digwydd."

Llun cyfrannwr
Y tro diwethaf doedde nhw ddim yn siŵr am annibyniaeth, ond nawr maen nhw wir moyn annibyniaeth
Neil Baker

Er mai o blaid annibyniaeth oedd Neil Baker y tro diwethaf, doedd o ddim yn llafar iawn am y peth - ond mae hynny wedi newid.

Tydi o - na nifer o Albanwyr eraill meddai - heb anghofio arweinwyr y prif bleidiau yn teithio i'r Alban pan oedd y polau piniwn yn agos iawn cyn diwrnod pleidlais 2014. Fe wnaeth David Cameron, Ed Milliband a Nick Clegg arwyddo llythyr yn addo mwy o rym i'r wlad a rhannu adnoddau i gael gwell cydraddoldeb.

Mae dadl ymysg gwleidyddion ynglŷn â faint o'r addewidion gafodd eu cadw, ond tydi Neil Baker ddim wedi ei argyhoeddi.

Ffynhonnell y llun, Rob Farrow
Disgrifiad o’r llun,

Port Ìlein (Port Ellen) ar Ynys Ìle, lle mae nifer yn cael eu cyflogi yn y diwydiant twrisitiaeth

Meddai: "Dwi ddim yn synnu bod cymaint o sôn am ail refferendwm oherwydd y ffordd mae'r Alban wedi cael ei thrin ers yr un diwethaf. Roedd sôn am gael system ffederal ac ati a wnaeth hynny ddim digwydd, does dim newid wedi bod o gwbl felly mae lot o newid wedi bod yn agwedd pobl.

"Byddwn i lawer mwy agored fy marn tro yma. Roeddwn i o blaid tro diwethaf ond mewn ffordd pan ddaeth y canlyniad roedd ychydig o ryddhad. Mae'n anodd ei egluro, ond roedd ansicrwydd yn dod gydag annibyniaeth.

"Y tro yma rwy'n ddigon bodlon i gymryd be' ddaw."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig