'Methiant' gwarchod hawliau plant sy'n cael eu dysgu adref
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn methu yn eu dyletswydd i amddiffyn plant sy'n cael eu haddysgu gartref, 10 mlynedd ers marwolaeth bachgen wyth oed, medd adroddiad.
Bu farw Dylan Seabridge o sgyrfi yn Sir Benfro yn 2011 ar ôl cyfnod o saith mlynedd pan na gafodd ei weld gan unrhyw wasanaethau.
Mae adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru yn dweud bod y llywodraeth "wedi methu ag ymateb yn ddigonol" i'w farwolaeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd y cyfrifoldeb i amddiffyn plant o'r fath yn "ddifrifol iawn", ond bod amgylchiadau wedi golygu bod oedi i'r gwaith sy'n cael ei wneud.
Cefnu ar gyfraith newydd
Ers marwolaeth Dylan Seabridge mae gweinidogion wedi ymrwymo i wneud gwelliannau i'r rheoliadau ynglŷn ag addysgu gartref.
Ond ym mis Mehefin 2020 bu'n rhaid cefnu ar gynlluniau ar gyfer cyfraith newydd oherwydd effaith y pandemig.
Nod y gyfraith newydd fyddai ei gwneud yn orfodol i awdurdodau lleol greu cofrestr o blant sydd ddim yn mynychu ysgol er mwyn sicrhau bod swyddogion yn mynd i'w gweld.
Mae adroddiad newydd y Comisiynydd Plant, yr Athro Sally Holland wedi dod i'r casgliad "nad yw Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â'i dyletswyddau cyfreithiol" ynglŷn â hawliau plant sy'n cael eu haddysgu gartref.
Mae'r Athro Holland hefyd yn dweud "na chyflawnwyd newid sylweddol" er gwaethaf nifer o ymgynghoriadau ar ganllawiau newydd a nifer o adroddiadau ac argymhellion gan wahanol gyrff.
Dywed yr adroddiad bod y newidiadau "wedi methu symud ymlaen bob tro".
Ychwanegodd bod y gyfraith gafodd ei awgrymu gan weinidogion yn 2018 yn "yn gyfyngedig yn ei gallu i amddiffyn plant" ac nad oedd yn "ddull priodol o ymdrin â'r materion dan sylw".
Dyma'r tro cyntaf i swyddfa'r Comisiynydd Plant ddefnyddio ei phwerau cyfreithiol i adolygu Llywodraeth Cymru.
'Dim newidiadau ystyrlon'
Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar ddiogelu plant mewn ysgolion annibynnol - ar hyn o bryd does dim rheidrwydd i staff ysgolion o'r fath fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC) i Gymru, sef rheoleiddiwr annibynnol staff addysg.
Mae hynny'n golygu nad ydy'r EWC yn gallu ymyrryd os oes pryderon am athrawon neu staff cefnogi dysgu.
Mae hefyd yn golygu bod staff ysgolion annibynnol yn gallu parhau i weithio gyda phlant hyd yn oed os ydyn nhw'n cael eu diswyddo yn dilyn gweithdrefnau disgyblu mewnol yn ymwneud â chamymddwyn gyda phlant.
Daeth yr adroddiad i'r canlyniad, tra bod canllawiau wedi cael eu cryfhau yn Lloegr a'r Alban, bu "fawr ddim newidiadau ystyrlon" yng Nghymru ers i reoliadau gael eu cyflwyno yn 2003.
Ychwanegodd yr Athro Holland y dylai pryderon a godwyd am bennaeth ysgol breifat yn Sir Ddinbych yn 2019 "fod wedi gweithredu fel catalydd" i gryfhau'r gyfraith, ond bod hynny'n "dal heb gael blaenoriaeth".
Dywedodd bod y "diffyg cynnydd dros nifer o flynyddoedd yn y meysydd polisi hyn wedi achosi rhwystredigaeth".
"Fy mhryder i yw bod yr oedi yn yr achosion hyn wedi digwydd dros gyfnod hir, ac y gallai hynny barhau mewn blynyddoedd i ddod os na wneir ymdrech bendant," meddai'r comisiynydd.
"Mae camau gweithredu a bwriadau llywodraethau olynol wedi bod yn rhy betrus, heb ddigwydd yn ddigon cyflym, ac yn y pen draw wedi bod yn aneffeithiol o safbwynt diwygio ystyrlon.
"Mae'n gwbl hanfodol i blant yng Nghymru bod y materion hyn yn derbyn sylw yn ystod tymor nesaf y Senedd, a hynny mewn modd penderfynol, eglur a thryloyw.
"Allwn ni ddim edrych yn ôl ymhen degawd arall a chanfod ein bod yn dal heb symud ymlaen fel gwlad."
Llywodraeth 'wedi gorfod newid ei ffocws'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cymryd y cyfrifoldeb am amddiffyn hawliau plant sy'n cael eu haddysgu gartref a'r rheiny mewn ysgolion annibynnol yn ddifrifol iawn.
"Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Addysg wedi mynegi eu siom bod y llywodraeth wedi methu â datblygu'r gwaith pwysig hwn - dan amgylchiadau arferol byddai'r gwaith yn nesáu at gael ei gwblhau erbyn hyn.
"Ond nid ydym dan amgylchiadau arferol ac mae'r llywodraeth wedi gorfod newid ei ffocws, gan gael effaith ar gwblhau'r gwaith yma.
"Rydyn ni wedi nodi canfyddiadau'r adroddiad a byddwn yn ei ystyried mewn mwy o fanylder cyn ymateb yn fwy ffurfiol."
Ychwanegodd cadeirydd Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru, Gareth Pearson mai "diogelwch a lles disgyblion ydy ein blaenoriaeth bennaf".
"Rydyn ni wastad wedi croesawu unrhyw gyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cryfhau ein canllawiau amddiffyn ymhellach, ac yn edrych ymlaen at weithredu ar argymhellion yr adroddiad yma," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd13 Awst 2018