Comisiynydd i adolygu ymateb i farwolaeth bachgen o sgyrfi

  • Cyhoeddwyd
CwestFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ym mis Tachwedd nad oedd erlyn rhieni Dylan, Glynn a Julie Seabridge, o fudd i'r cyhoedd

Fe fydd y Comisiynydd Plant yn cynnal adolygiad i ymateb Llywodraeth Cymru i farwolaeth bachgen ifanc o sgyrfi yn 2011.

Yn 2015, dywedodd crwner nad oedd Dylan Seabridge, 8 oed, o Sir Benfro wedi cael ei weld gan unrhyw awdurdodau ers saith mlynedd.

Fe arweiniodd yr achos at alw am sicrhau bod swyddogion yn gwybod am blant sy'n cael eu haddysgu adref.

Ym mis Mehefin, dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai modd bwrw 'mlaen gyda deddfwriaeth cyn etholiad 2021, yn sgil y pandemig.

Yn ôl llefarydd, mae "pwysau digynsail" wedi bod ar waith y llywodraeth ond dywedodd eu bod wedi ymrwymo i hawliau plant yng Nghymru.

Dywedodd y Comisiynydd, Sally Holland, ei bod yn deall bod y pandemig yn effeithio ar waith y llywodraeth, ond bod dyletswydd i ddiogelu hawliau a lles plant a phobl ifanc.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar ddeddfwriaeth i'w gwneud yn ofynnol i gynghorau greu cronfa ddata o blant sydd ddim ar gofrestr ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sally Holland ei bod yn "pryderu'n arbennig" am yr ymateb i'r achos

Dywedodd y Comisiynydd Plant fod pryder bod lleiafrif bach o blant sy'n cael eu haddysgu adref ddim yn derbyn eu hawl i gael addysg addas.

"Ers blynyddoedd, rydyn ni wedi galw'n gyson am wella'r fframwaith cyfreithiol i ddiogelu hawliau'r plant hyn ac rydyn wedi bod yn pryderu'n arbennig am ymateb Llywodraeth Cymru i farwolaeth Dylan Seabridge yn 2011," meddai.

"Mewn sefyllfa fel pandemig, mae'n hawdd i'r ffocws symud… pan ddylai pob penderfyniad gan y llywodraeth, mewn gwirionedd, fod wedi'i wreiddio mewn hawliau plant."

'Dyletswydd sicrhau addysg addas'

Dywedodd y comisiynydd hefyd y byddai'n defnyddio ei phwerau i ystyried "diffyg gweithredu" ynglŷn â'i gwneud yn ofynnol i athrawon mewn ysgolion annibynnol i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Fe fydd yr adolygiad yn arwain at adroddiad ac argymhellion ffurfiol yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd "i sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn cael y sylw angenrheidiol wrth ymateb i'r argyfwng cenedlaethol".

"Mae awdurdodau lleol yn parhau i fod o dan ddyletswydd i sicrhau bod pob plentyn yn eu hardal yn cael addysg addas waeth ble y caiff hynny ei ddarparu," meddai.