'Cyrsiau ymarferol wedi'u tarfu'n waeth nag ysgolion'
- Cyhoeddwyd
Mae'n "anochel" y bydd dysgu myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau coleg ymarferol wedi cael ei amharu'n fwy na disgyblion TGAU a Safon Uwch sy'n gallu astudio gartref, yn ôl pennaeth Colegau Cymru.
Mae nifer fach o fyfyrwyr a phrentisiaid coleg wedi cael dychwelyd i golegau yr wythnos hon, fel y rhai sydd angen trwydded i weithio yn y diwydiant adeiladu.
Caeodd safleoedd colegau ynghyd ag ysgolion cyn y Nadolig ar ôl cynnydd mewn achosion coronafeirws.
Dywedodd prif weithredwr Colegau Cymru, Iestyn Davies, ei bod yn galonogol ei bod yn ymddangos fod myfyrwyr coleg sydd yn aml yn cael eu "hanghofio" wedi cael blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru.
'Ychydig yn fwy o risg'
"Ers dechrau'r wythnos, mae dysgwyr galwedigaethol - hynny yw, dysgwyr sydd yn gwneud pynciau ymarferol fel plymwyr, adeiladwyr neu drydanwyr - maen nhw wedi dechrau dod yn ôl i'r colegau er mwyn derbyn addysg a hefyd i ddechrau asesiadau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn ddilys ac yn gallu gwneud y gwaith sydd rhaid iddyn nhw ei wneud," meddai Mr Davies.
"Yn anffodus, mae wedi bod yn anochel bod llawer o addysg ymarferol y dysgwyr hyn wedi cael ei darfu arno yn fwy nag addysg rheiny sy'n gallu astudio gartref, a allai fod yn sefyll eu harholiadau Safon Uwch neu TGAU.
"Allwch chi ddim dysgu plymio, na bod yn drydanwr neu'n weldiwr dim ond drwy wylio fideos YouTube - mae'n rhaid i chi ei wneud a dangos eich bod yn gymwys ac yn ddiogel.
"Mae'n galonogol iawn ar hyn o bryd bod Llywodraeth Cymru wedi dewis blaenoriaethu'r dysgwyr hyn, oherwydd yn aml yn anffodus maen nhw'n cael eu hanghofio neu eu hanwybyddu."
Ond cyfaddefodd Mr Davies fod "proffil oedran" myfyrwyr coleg yn eu gwneud "ychydig yn fwy o risg o ran iechyd cyhoeddus".
Dywedodd fod mesurau cadw pellter cymdeithasol a diogelwch personol "penodol iawn" wedi'i roi ar waith i wneud yn sicr bod modd iddyn nhw ddychwelyd.
Ychwanegodd Aled Jones-Griffith, pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor: "Pan oedd pobl yn dod yma cyn y Nadolig, mi oedd gennym ni'r grwpiau cyswllt.
"Mae'r grwpiau cyswllt bellach wedi diflannu ac mae'n rhaid i bawb gadw o leia' dau fetr i ffwrdd o'i gilydd.
"Mi fyddan nhw'n gwisgo'r deunyddiau PPE pan fyddan nhw'n dod i mewn - a'r mygydau.
"Ond dwi'n meddwl fod dysgwyr yn derbyn bod rhaid iddyn nhw gadw at y pellter yna.
"Maen nhw wedi dweud wrthan ni ers iddyn nhw fynd i ffwrdd cyn y Nadolig eu bod nhw'n awyddus iawn i ddod yn ôl ond dim ond pan mae'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny."
Dywedodd Mr Jones-Griffith bod ei golegau yn gwahodd myfyrwyr yn ôl mewn "ffordd reoledig iawn" ac yn eu ffonio y noson cyn iddyn nhw gyrraedd i weld a oes ganddyn nhw symptomau Covid.
Ddydd Llun dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei bod yn gobeithio y byddai blynyddoedd 11 a 13, ynghyd â'r rhai sy'n gwneud "cymwysterau tebyg mewn colegau" yn gallu dychwelyd o 15 Mawrth.
Mae Ellie Kidd, 18, yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio NVQ Chwaraeon Lefel 3 yng Ngholeg Cambria.
Dywedodd nad yw'n siŵr o hyd pryd y gallai hi ddychwelyd.
"Roeddwn i'n bendant yn meddwl y bydden ni 'nôl ar ôl mis Ionawr i fod yn onest, ond rydyn ni'n dal dan glo. Mae wedi bod yn amser hir iawn i mi," meddai.
"Yn amlwg byddai'n dda gennyf pe bawn i'n mynd yn ôl, ond rwy'n falch bod pobl yn dechrau dychwelyd [i'r coleg]."
Dywedodd Ellie ei bod yn gobeithio y byddai cyhoeddiadau pellach am ddysgwyr galwedigaethol yn fuan.
"O ran cyhoeddiadau, rwy'n teimlo mai'r cyfan rydym yn clywed amdano fel arfer yw TGAU a Safon Uwch," meddai.
"Os ydych chi wedi dilyn cwrs ymarferol, y rheswm yw eich bod yn mwynhau'r rhannau ymarferol.
"Gall peidio â chael yr elfen ymarferol honno wneud y gwaith ysgrifenedig ychydig yn anoddach i chi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020