Elusen yn 'dal i gael cwynion' am ymateb heddlu i drais

  • Cyhoeddwyd
HEddwen Daniel
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddwen Daniel bod angen i bob swyddog wybod sut i ddelio gyda chwynion am ymosodiadau

Mae elusen wedi dweud ei bod yn dal i glywed cwynion nad yw'r heddlu'n ymchwilio'n ddigon trwyadl i bob achos o drais yn erbyn menywod.

Dywedodd Heddwen Daniel o elusen Cymorth i Ferched ei bod yn dal i gael achosion o bobl sydd â "chwynion yn erbyn y ffordd mae'r heddlu wedi ymateb i'w hachosion nhw".

Yn siarad ar Newyddion S4C, dywedodd bod dealltwriaeth "yn gwella", ond bod "angen sicrhau bod hynny yn ffiltro lawr i bawb a sicrhau bod pob un swyddog heddlu unigol yn gwybod sut i ymateb yn y ffordd gywir".

Yn ôl holiadur trosedd Cymru a Lloegr, bydd un o bob pum menyw yn profi ymosodiad rhyw yn ystod eu bywydau.

Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth y llynedd, cafodd 154,000 o ymosodiadau rhyw eu cofnodi yn y ddwy wlad.

'Dim amheuaeth y byddwn i wedi cael fy nhreisio'

Dywedodd un fenyw, oedd am aros yn anhysbys, wrth Newyddion S4C ei bod wedi ei siomi gan ymateb yr heddlu, wedi iddi ddioddef ymosodiad honedig.

Dywed iddi gicio'n rhydd a dianc rhag ei hymosodwr: "Does dim amheuaeth gen i y byddwn i wedi cael fy nhreisio."

Pan aeth hi at Heddlu Gwent i nodi'r ymosodiad, roedd hi'n siomedig gyda'u hymateb.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y fenyw wrth Gwyn Loader bod ymateb yr heddlu wedi cael effaith emosiynol arni

"I ddechrau, o'n nhw'n eitha' sympathetic o ran yr ymosodiad.

"Ond i fi, beth oedd really, really wedi ypseto fi ac allai wedi cael effaith ar ddal yr ymosodwr o'dd y ffaith bod nhw ddim wedi mynd â'n nillad i drio cael DNA.

"Hefyd, ro'n i wedi gofyn iddyn nhw i roi rhywbeth mas ar Facebook a chyfryngau cymdeithasol fel bod pobl yn ymwybodol bod rhywun yn ymosod ar bobl ond cafodd hynny ei wrthod."

'Heb gael fy nghymryd o ddifrif'

Cafodd apêl ei wneud yn ddiweddarach wedi i'r fenyw ei hun ysgrifennu neges ar Facebook.

Mae hi hefyd yn dweud bod diffyg cyfathrebu gan y llu ac na chafodd hi unrhyw gymorth emosiynol ymarferol gan Heddlu Gwent.

"Rwy just yn teimlo bod fi heb gael fy nghymryd o ddifrif. Mae 'di cael effaith arna' i yn emosiynol."

Er iddi godi pryderon ar y pryd gydag arolygydd Heddlu Gwent, doedd hi heb wneud cwyn swyddogol.

Wedi i BBC Cymru ofyn am ymateb Heddlu Gwent, fe gysylltodd arolygydd gyda'r fenyw ddydd Iau.

Dywedodd iddi gael esboniad na chwiliwyd am DNA ar ei dillad am ei bod yn bwrw glaw yn drwm ac felly ei bod yn debygol y byddai unrhyw dystiolaeth wedi ei olchi ymaith, ac na wnaethon nhw apêl ar gyfryngau cymdeithasol am eu bod nhw ddim am achosi braw yn ddiangen.

Mae'n dweud ei bod hi bellach wedi cael ei chyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl gan y llu.

Beth ddywedodd Heddlu Gwent?

Ni chafodd holl fanylion yr achos eu hanfon at Heddlu Gwent am fod y fenyw eisiau bod yn anhysbys.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Mae Heddlu Gwent yn cymryd pob hysbysiad am drosedd o ddifrif a bydd ein swyddogion yn ymchwilio'n drwyadl i bob hysbysiad.

"Os yw dioddefwr trosedd yn anfodlon â'r ffordd mae ymchwiliad wedi cael ei gynnal, mae croeso iddo ef neu hi rannu'r farn hon gyda ni er mwyn i ni allu darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau.

"Byddem yn annog unrhyw unigolyn i gysylltu'n uniongyrchol â ni gydag unrhyw bryderon am y gwasanaeth mae wedi ei dderbyn gan Heddlu Gwent, er mwyn i ni geisio datrys y mater.

"Dim ond ar ôl i gŵyn swyddogol gael ei chyflwyno a'i derbyn gan Heddlu Gwent y gall y llu ymchwilio i'r materion hyn."

Ychwanegodd y datganiad y bydd "unrhyw gŵyn a dderbynnir yn cael ei hymchwilio'n llawn", ac unrhyw argymhellion yn deillio o hynny "yn cael eu rhoi ar waith gennym er mwyn gwella ansawdd cyffredinol y gwasanaeth a ddarperir gennym".

Pynciau cysylltiedig