Ymchwilio i 'fwlch cyfiawnder' troseddau casineb
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i sicrhau fod mwy o bobl yng Nghymru sy'n dioddef yn sgil trosedd casineb yn cael y cyfiawnder maen nhw'n ei haeddu.
Daw alwad elusen Race Equality First wrth iddyn nhw lansio gwaith ymchwil newydd gyda heddluoedd ar draws Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Tasg yr ymchwilwyr fydd cymharu nifer y troseddau casineb a gafodd eu cofnodi gan yr heddlu â'r nifer a ddyfarnwyd yn euog. Byddant hefyd yn cyfweld â dioddefwyr i weld a yw 'bwlch cyfiawnder' wedi effeithio arnyn nhw.
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt yn lansio'r gwaith ymchwil ddydd Llun.
Cyfiawnder
Mae ystadegau yn dangos bod nifer y troseddau casineb wedi dyblu ledled Cymru a Lloegr mewn wyth mlynedd yn unig.
Yn 2018/19 cafodd 103,379 o droseddau casineb eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, o'i gymharu a'r 42,225 yn 2012/13.
Mae ymchwil presennol ar draws Cymru a Lloegr yn amcangyfrif mai 4% o'r holl droseddau casineb a adroddwyd sy'n arwain at ddedfryd.
Nod yr ymchwil 'Prosiect Gwahaniaethu a Throseddu Casineb' yw ymchwilio i'r 'bwlch cyfiawnder' y mae llawer o ddioddefwyr troseddau casineb yn ei ddioddef. Bydd y gwaith hefyd yn ystyried pam mai dim ond cyfran fach o'r troseddau casineb sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu sy'n arwain at ddyfarniad o unrhyw fath.
Dywedodd Aliya Mohammed, Prif Swyddog Gweithredol Race Equality First: "Mewn blwyddyn sydd wedi gweld mwy fyth o greulondeb yr heddlu yn yr Unol Daleithiau a chynnydd yn y gefnogaeth i'r mudiad Black Lives Matter, mae'n fwy amlwg nag erioed bod pobl eisiau newid.
"Roedd ein 'Prosiect Ymchwil Troseddau Casineb Cymru Gyfan', a gyhoeddwyd yn 2013 mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, yn astudiaeth i natur troseddau casineb a digwyddiadau cysylltiedig â chasineb yng Nghymru, a'i effaith ar ddioddefwyr.
"Fe arweiniodd y gwaith ymchwil hwnnw at greu'r Fframwaith ar gyfer Gweithredu ar Droseddau Casineb gan Lywodraeth Cymru yn 2016.
"Fodd bynnag, yn amlwg, mae materion troseddau casineb yn parhau i fod yn realiti anffodus i lawer yng Nghymru.
"Yn waeth eto, pan fydd dioddefwyr yn gwneud y penderfyniad dewr i adrodd y drosedd casineb i'r heddlu, mae'r tebygolrwydd y bydd yn arwain at erlyniad yn parhau i fod yn isel iawn.
"Mae ein hymchwil yn bwriadu deall gwir natur y 'bwlch cyfiawnder' hwn yng Nghymru gyda'r nod, yn y pen draw, o ddylanwadu ar newidiadau deddfwriaethol i'r system cyfiawnder troseddol a sicrhau bod y bwlch hwn, yn y dyfodol, yn cael ei leihau'n sylweddol."
Dioddef o wahaniaethu 'yn ddyddiol'
"Mae'n gliriach nag erioed bod angen gwneud mwy", meddai Ms Mohammed.
"Mae angen i ni annog a hwyluso addysg ar freintiau pobl gwyn yn ogystal â gorffennol trefedigaethol Prydain. Mae angen i ni ddarllen llyfrau, llofnodi deisebau, cefnogi sefydliadau sydd wedi ymrwymo i ymladd anghydraddoldeb hiliol ac anghyfiawnder a herio ymddygiad hiliol lle bynnag rydyn ni'n dod o hyd iddo. "
Wrth gymryd rhan yn y gwaith ymchwil dywedodd un ddynes wrth yr elusen: "Mae fy mhrofiad o droseddau casineb wedi cael effaith ddwys ar fy mywyd.
"Yn anffodus, dwi'n gwybod nad ydw i ar fy mhen fy hun ac y bydd yr ymchwil hwn yn tynnu sylw yn ddiamau fod pobl ledled Cymru yn dioddef o wahaniaethu a cham-drin yn ddyddiol.
"Hyd nes y bydd pobl yn dechrau deall nad yw troseddau casineb yn rhywbeth y gellir ei frwsio o dan y carped, ac addysgu eu hunain ar anghydraddoldebau mewn cymdeithas, fyddwn ni fyth yn gweld unrhyw newid parhaus."
Dywedodd Jane Hutt AS: "Ni ddylai unrhyw berson yng Nghymru orfod goddef rhagfarn na throseddau casineb.
"Mae'n hanfodol bod dioddefwyr troseddau casineb yn cael eu cefnogi, a bod cyflawnwyr yn cael eu dwyn i gyfrif, a bydd yr astudiaeth hon o Race Equality First yn helpu i ddangos lle mae'r bylchau cyfiawnder yng Nghymru.
"Rydym yn ymdrechu i gael gwared ar anghydraddoldebau, a byddwn yn defnyddio pob cyfle sydd gennym i wneud Cymru yn gymdeithas deg a chyfiawn, yn rhydd o wahaniaethu ac anghydraddoldeb.
"Nid oes gan gasineb gartref yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2019