'Angen mwy o adnoddau i ddelio ag achosion rhyw yn gynt'
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o adnoddau ar heddluoedd ac erlynwyr gan fod ymchwiliadau i achosion o dreisio ac ymosodiadau rhyw yn cymryd mwy o amser, medd elusen sy'n cefnogi dioddefwyr.
Dywed New Pathways, sy'n derbyn nifer cynyddol o geisiadau am gymorth bob blwyddyn, ei bod hi'n cymryd cymaint â thair blynedd i rai achosion gyrraedd llys.
Gall hynny, a chyfraddau isel euogfarnu, atal rhai dioddefwyr rhag mynd at yr heddlu, medd yr elusen, sy'n annog pobl i gyfeirio'u hunain am gymorth.
Bydd adolygiad o'r ffordd y mae achosion trais a throseddau rhyw difrifol yn cael eu trin yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn, medd Llywodraeth y DU.
Syrthiodd nifer yr euogfarnau trais rhywiol yng Nghymru a Lloegr i'r lefel isaf erioed ym mis Gorffennaf.
Mae perygl i hynny achosi i ddioddefwyr "deimlo does dim pwynt" mynd i'r heddlu gan ofni "nad ydyn nhw'n mynd i gael cyfiawnder", medd pennaeth hyfforddiant ac ymchwil New Pathways, Debbie Woodroffe.
Ond mae'n pwysleisio "ei bod yn werth dod ymlaen, pa bynnag ganlyniad rydych chi ei eisiau" gan fod "ystod o gefnogaeth ar gael i bobl".
'Lle diogel'
New Pathways sy'n rhedeg chwech o'r wyth canolfan cefnogi dioddefwyr troseddau rhyw yng Nghymru, ble mae cyfweliadau heddlu, archwiliadau meddygol fforensig a chwnsela yn digwydd dan un to.
Mae modd casglu a chadw tystiolaeth os nad yw dioddefwr yn barod neu'n awyddus i roi gwybod am drosedd ddiweddar, ac mae cyngor a gwasanaeth cwnsela yn cael eu cynnig o'r dechrau.
Pe bai dioddefwr yn newid eu meddwl, mae eiriolwyr annibynnol yn eu helpu trwy'r broses gyfiawnder troseddol.
"Dyma eu lle diogel," meddai Lisa Richards, eiriolwr trais yn Abertawe. "Mae mor lân a hamddenol, mae'n union fel dod i mewn i ystafell fyw, nid gorsaf heddlu."
Y dioddefwr, meddai, sy'n "arwain" y broses. "Os oes angen seibiant arnynt, gallant stopio, cael awyr iach, paned o de a dechrau'n ôl yn hamddenol."
Ychwanegodd fod ymchwiliadau'r heddlu'n "dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd" yn y canolfannau, ble mae ystafelloedd yn cael eu glanhau'n fanwl wedi pob defnydd.
Ond mae'r ymchwiliadau hynny, medd Debbie Woodroffe yn cymryd "weithiau blynyddoedd, yn hytrach na misoedd".
"Mae pobl weithiau'n rhoi'r gorau [ar y broses gyfreithiol] oherwydd eu bod am fwrw ymlaen â'u bywydau," meddai.
"Ond gyda'r cymorth a'r gefnogaeth gywir gallwn helpu pobl i barhau i gymryd rhan yn y broses honno.
"Rwy'n credu y gallai mwy o adnoddau i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wneud gwahaniaeth enfawr."
Mewn un achos, medd yr elusen, fe gymrodd dair blynedd wedi i ddioddefwr gwyno i'r heddlu cyn i'r achos gyrraedd y llys.
'Bywyd yn dod i stop'
Mae pryder ychwanegol erbyn hyn gydag achosion llys yn cael eu gohirio oherwydd y pandemig.
"Mae'n effeithio ar les emosiynol pobl a'u hiechyd meddwl," meddai Sarah Thomas, rheolwr Canolfannau Cymorth Cymunedol New Pathways.
"Mae pobl yn paratoi eu hunain tuag at ddyddiad, ac rydym wedi cael ychydig o achosion lle mae'r achosion hynny wedi'u tynnu o'r llys ddwy, weithiau deirgwaith."
Y fath oedi cyn cynnal achosion yw'r "frwydr fwyaf" i'r unigolion maen nhw'n eu cefnogi, meddai, a "gall bywyd ddod i stop" iddyn nhw yn y cyfamser, er yr holl gymorth sydd ar gael.
Mae ambell fantais oherwydd y pandemig hefyd, gan ei bod hi'n well gan rai unigolion gael cymorth dros y ffôn neu mewn galwad fideo.
Mae hynny, er enghraifft, wedi helpu rhai osgoi teithiau bws dwy awr a hanner o hyd i gyrraedd swyddfa'r elusen ym Merthyr Tudful.
"Mae hynny'n ffordd bell i ddod i siarad am rywbeth anodd iawn a rheoli'r teithiau hynny hefyd," meddai Debbie Woodroffe.
"Felly mae wedi bod yn wych i lawer o bobl, ond mae grŵp bach o bobl sy'n byw gyda'r person wnaeth gyflawni'r drosedd, a digwyddodd y trawma yn eu cartref eu hunain.
"Rydyn ni'n gwybod bod angen i ni eu gweld wyneb yn wyneb fel ein bod yn dal i allu gweld y bobl hynny, gan ddefnyddio ymbellhau cymdeithasol a PPE."
'Haeddu cael eu cymryd o ddifrif'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod dioddefwyr treisio rhywiol "yn haeddu gwybod y bydd eu hachosion yn cael eu cymryd o ddifrif a'u dilyn fel y gallant gael cyfiawnder".
Dyna, meddai, sydd wrth wraidd "adolygiad trwyadl o'r modd y mae'r system cyfiawnder troseddol gyfan yn ymateb i drais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol".
Ychwanegodd fod y llywodraeth Geidwadol "yn recriwtio 20,000 o heddweision ychwanegol, gan fuddsoddi £80m i gynyddu capasiti yn y llysoedd a rhoi hwb i ariannu gwasanaethau arbenigol i gefnogi dioddefwyr roi gwybod am y troseddau hyn".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019