Un yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae un person yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Nghaernarfon, Gwynedd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Faes Cadnant am tua 17:45.
Un cerbyd oedd yn rhan o'r digwyddiad, ac er i ambiwlans awyr gael ei anfon i'r digwyddiad, fe gafodd y person ei yrru i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Nid oes mwy o fanylion am anafiadau'r person ar hyn o bryd.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod, ond mae bellach wedi ailagor.