Gwadu anfon pecyn amheus i ffatri brechlyn Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi gwadu anfon pecyn amheus drwy'r post i ffatri sy'n cynhyrchu brechlynnau Covid-19 yn Wrecsam.
Ymddangosodd Anthony Collins, 53, mewn gwrandawiad trwy gyfrwng fideo yn Llys y Goron Maidstone, Caint, ddydd Gwener.
Gwadodd un cyhuddiad o anfon rhywbeth drwy'r post gyda'r bwriad o wneud i rywun feddwl ei fod yn debygol o ffrwydro neu danio.
Mae achos llys, sy'n debygol o barhau dros dri neu bedwar diwrnod, wedi cael ei glustnodi ar gyfer 31 Awst.
Mae'r diffynnydd yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd y barnwr, Stephen Thomas, wrth y gwrandawiad y byddai "llawer o ddiddordeb gan y cyhoedd" yn yr achos.
Cafodd Mr Collins ei gyhuddo ar ôl i weithwyr ffatri Wockhardt UK yn Wrecsam orfod gadael yr adeilad ddiwedd Ionawr, pan gafodd uned ddifa bomiau ei galw yno.
Mae gan y ffatri'r gallu i gynhyrchu 300 miliwn dos y flwyddyn o'r brechlyn Oxford-AstraZeneca.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2021