Teuluoedd yn casglu arian i chwilio am bysgotwyr coll

  • Cyhoeddwyd
Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrathFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath ar goll ar ddiwedd mis Ionawr

Mae teuluoedd tri o bysgotwyr aeth ar goll oddi ar arfordir y gogledd yn ceisio casglu arian i dalu am ymgyrch arall i chwilio amdanynt.

Yr ymgais yw codi £75,000 er mwyn talu am ymgyrch breifat i chwilio am Ross Ballantine, 39, Alan Minard, 20, a Carl McGrath, 34.

Dyw cwch y Nicola Faith ddim wedi'i weld ers i'r criw fynd i bysgota o borthladd Conwy ar 27 Ionawr.

Mae'r teuluoedd nawr wedi mynd ar ofyn arbenigwr yn y maes, David Mearns, wnaeth ganfod gweddillion yr awyren fu'n cario'r pêl-droediwr Emiliano Sala.

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) yn ymchwilio i'r digwyddiad ond mae'r teuluoedd eisiau cyflogi tîm preifat i chwilio am y cwch a'r criw.

Bu'r gwasanaethau brys yn chwilio am y Nicola Faith wedi iddi fynd ar goll cyn i'r ymgyrch gael ei hatal ar ôl deuddydd, a dros fis yn ddiweddarach does dim arwydd o'r cwch wedi'i ganfod.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r Nicola Faith ddim wedi'i weld ers i'r criw fynd i bysgota o borthladd Conwy ar 27 Ionawr

Dywedodd chwaer Mr Ballantine, Lowri Taylor bod Mr Mearns wedi cynghori'r teuluoedd i "weithredu'n gyflym a chodi'r arian cyn gynted â phosib cyn ei bod hi'n rhy hwyr".

Roedd yr ymgyrch wedi llwyddo i godi dros £7,500 lai na 24 awr ers iddo gael ei sefydlu.

"Mae angen i ni gael yr arian er mwyn cael arbenigedd y timau chwilio ar wely'r môr a defnyddio'r offer mwyaf blaenllaw," meddai Ms Taylor.

"Gall hyn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan yr MAIB, sydd ddim â'r amser, arian na'r adnoddau i barhau â'r chwilio."

'Awchu am atebion'

Dywedodd Mr Mearns ei fod wedi bod yn darparu "cyngor technegol i'r teuluoedd am sut i chwilio am y cwch a'r ffyrdd gorau o godi arian er mwyn talu amdano".

"Gobeithio y bydd pobl Conwy a'r gymuned bysgota ehangach yn gallu helpu ni i gael y criw yn ôl i'w teuluoedd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lowri Taylor bod y teuluoedd wedi cael cyngor i "weithredu'n gyflym"

Ychwanegodd mam Mr Minard, Nathania Minard, bod "cwestiynau sydd heb eu hateb" ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd i'r criw.

"Mae angen hyn arnom er mwyn galluogi i'r teuluoedd symud ymlaen a chofio'r amseroedd da yn hytrach na phoeni am beth ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw," meddai.

"Mae'r tri theulu yn awchu am atebion, ond yn fwy na dim rydyn ni just eisiau eu cael nhw gartref."

Pynciau cysylltiedig