Marwolaethau wythnosol Covid-19 yn parhau i ostwng
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y marwolaethau'n ymwneud â Covid-19 wedi gostwng am y bumed wythnos yn olynol, a hynny i'r nifer wythnosol isaf ers dechrau Tachwedd.
Cafodd 179 o farwolaethau eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 19 Chwefror - 22.7% o'r holl farwolaethau yr wythnos honno, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Roedd hyn 37 o farwolaethau yn llai na'r wythnos flaenorol.
Mae cyfanswm o 7,458 o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19 wedi cael eu cofnodi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach.
Marwolaethau ar eu huchaf yn y gogledd
Am y bumed wythnos yn olynol, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wnaeth gofnodi'r nifer fwyaf o farwolaethau.
Cafodd 50 o farwolaethau coronafeirws eu cofnodi yn y gogledd - 39 mewn ysbytai a naw mewn cartrefi gofal.
Roedd 36 o farwolaethau yn ardal Hywel Dda, a 31 yng Nghaerdydd a'r Fro.
19 o farwolaethau gafodd eu cofnodi yng Nghwm Taf Morgannwg, ac 14 ym Mae Abertawe - nifer lleiaf y ddau fwrdd iechyd hynny mewn pedwar mis.
Ledled Cymru yn yr wythnos hyd at 19 Chwefror roedd 23 o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19 mewn cartrefi gofal - y cyfanswm wythnosol lleiaf ers dechrau Tachwedd.
Beth am farwolaethau 'gormodol'?
Mae'r ffigyrau'n dangos, am y cyfnod rhwng dechrau'r pandemig fis Mawrth diwethaf a 19 Chwefror eleni, y bu 37,320 o farwolaethau o bob achos yng Nghymru.
O'r rhain, soniodd 7,406 o farwolaethau (19.8%) am Covid-19 ar y dystysgrif marwolaeth. Roedd hyn 5,411 o farwolaethau yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.
O edrych ar farwolaethau o gymharu â'r hyn y gallem fel arfer ddisgwyl ei weld, o flynyddoedd blaenorol - mae marwolaethau "gormodol" yn cael ei ystyried yn fesur dibynadwy.
Mae cyfanswm y marwolaethau sy'n cynnwys Covid hyd at 12 Chwefror, pan fydd cofrestriadau yn y dyddiau canlynol yn cael eu cyfrif, bellach yn 7,458.
Mae'r rhain yn farwolaethau lle mae Covid naill ai'n cael ei amau neu ei gadarnhau gan feddygon, fel ffactor cyfrannol. Ond y gred ydy mai'r feirws ydy'r achos sylfaenol mewn tua 90% o'r marwolaethau yma.
Yn wahanol i'r cipolwg dyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r ffigyrau gan yr ONS hefyd yn cynnwys yr holl farwolaethau mewn cartrefi gofal, hosbisau a chartrefi pobl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2021