Gruffydd Wyn yn ennill Cân i Gymru 2020

  • Cyhoeddwyd
Gruffydd Wyn yn ennill Cân I Gymru 2020Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gruffydd Wyn ei fod "methu coelio'r peth" ar ôl ennill y pleidlais gyhoeddus nos Sadwrn

Gruffydd Wyn ddaeth i'r brif yng nghystadleuaeth Cân I Gymru 2020 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Sadwrn.

Penderfynodd gwylwyr mai'r gân Cyn I'r Llenni Gau oedd yn haeddu'r wobr gyntaf o £5,000 a'r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon fis nesaf.

Dywedodd y canwr o Amlwch, a ddaeth i amlygrwydd ar ôl cyrraedd rowndiau olaf y gyfres deledu Britain's Got Talent: "Roedd y gân yma i fy Nain a fu farw'n ddiweddar, a dwi wedi gweld bywyd yn anodd iawn ers ei cholli.

"Dwi'n gobeithio y bydda'i hi yn browd iawn ohona' i heno."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna wyth o ganeuon yn rownd derfynol y gystadlethaeth

Y gân Pan Fyddai'n Wythdeg Oed ddaeth yn ail yn y bleidlais gyhoeddus, gan sicrhau gwobr o £2,000 i'r cyfansoddwyr, Rhydian Meilir a Jacob Elwy.

Cafodd Alistair James £1,000 am ddod yn drydydd gyda Morfa Madryn.

Roedd yna bum cân arall yn y rownd derfynol:

  • Arianrhod gan Beth Celyn;

  • Adref yn ôl gan Tesni Jones, Sara Williams a Roo Walker;

  • Dawnsio'n Rhydd gan Ben Hamer a Rhianna Loren;

  • Y Tir a'r Môr gan Rhydian Meilir;

  • ac Anochel gan Aled Mills.

Cafodd caneuon y rownd derfynol eu dewis gan banel o feirniaid - Bryn Fôn, Georgia Ruth, Ani Glass ac Owain Gruffudd Roberts.

Mae'r Ŵyl Ban-Geltaidd yn cael ei chynnal yn Carlow eleni rhwng 14 a 19 Ebrill.