Codi ymwybyddiaeth o heriau dementia i'r synhwyrau
- Cyhoeddwyd
Mae byw gyda dementia yn ddigon anodd - ond pan mae'r cyflwr yn effeithio ar y synhwyrau, fel y clyw a'r golwg, mae 'na heriau ychwanegol.
Wrth gwrs os ydy rhywun gyda dementia, mae'n gallu ei gwneud yn anoddach i adnabod dirywiad yn y synhwyrau hefyd.
I geisio codi mwy o ymwybyddiaeth o'r heriau, mae Prifysgol Bangor wedi cydweithio gyda Merched y Wawr i gynhyrchu pamffled yn tynnu sylw at effeithiau posib dementia ar y synhwyrau.
Ddwy flynedd yn ôl roedd Merched y Wawr yn un o'r partneriaid gyfrannodd at lansio cryno ddisg o'r enw 'Cân y Gân' ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dementia, a rŵan maen nhw'n rhan o'r fenter ddiweddara' yma ar y cyd a Phrifysgol Bangor.
Gyda galw am fwy o adnoddau yn y Gymraeg, maen nhw wedi cyfieithu llyfryn yn sôn am effaith dementia ar synhwyrau pobl. Mae'r pamffled yn cael ei ddosbarthu gyda'r rhifyn diweddara' o gylchgrawn 'Y Wawr'.
Un sy'n gyfarwydd ag effaith dementia ar glyw a golwg ydy Glenda Roberts, gafodd ddiagnosis dementia yn ei phumdegau cynnar.
"Yn dechrau un o'n i'm yn licio mynd allan," meddai. "Ma' senses fel clywed - ma' lot o sŵn yn anodd i ddeall. Croesi lôn ydw i'n ffeindio'n anodd felly dwi'm yn mynd allan llawer ar ben fy hun.
"Da chi'm yn gallu gweld pa mor bell mae'r car oddi wrthoch chi a pa speed mae o'n 'neud felly ma' judgement os ydy hi'n saff neu beidio. Ma' pobl yn rhoi matiau tu allan i ddrysau a rhywun yn meddwl mai twll neu ddŵr ydy o.
"Dydw i'm yn mynd i siopa ar ben fy hun chwaith - ma' bob dim ar y shilffoedd yn cymysgu i'w gilydd a ti'm yn gallu ffeindio be' wyt ti isho."
Mae Glenda yn croesawu'r ffaith bod 'na fwy o adnoddau yn y Gymraeg rŵan i bobl sy'n byw â dementia.
"Dydw i ddim yn medru siarad Saesneg fel o'n i," meddai. "Mae lot o'r llyfrau a'r pamffledi 'da ni'n eu cael yn Saesneg felly 'da ni'n trio gwneud mwy yn y Gymraeg rŵan - mae o mor bwysig."
Mae'r llyfryn Cymraeg wedi cael croeso gan elusennau Dementia UK a'r Gymdeithas Alzheimer's.
Catrin Hedd Jones, darlithydd yn Adran Dementia Prifysgol Bangor, fu'n gweithio ar y pamffled ar y cyd ag aelodau Merched y Wawr.
Dywedodd: "Mae'r pamffled yn gasgliad o wybodaeth gan dros 25 o bobl sy'n byw efo dementia o chwech o wahanol wledydd.
"Mi gafodd ei ddechrau gan ddynes o'r enw Agnes Houston i fyny yn Yr Alban ac roedd hi'n reit rwystredig bod y sgyrsiau oedd hi'n gael efo arbenigwyr wastad yn sôn am ei chof hi, a ddim yn sylweddoli bod dementia yn effeithio ar y ffordd roedd hi'n gweld pethau neu sut oedd bywyd o'i chwmpas hi'n wahanol wrth i'r dementia ddatblygu.
"Mae'r pamffled wedi'i chyhoeddi mewn sawl iaith arall ac oeddan ni yn gwybod bod hi'n bamffled pwysig i gael yn yr iaith Gymraeg. Be' 'da ni 'di 'neud ydy cydweithio efo Merched y Wawr i 'neud yn siŵr bod hi'n addas a bod ganddon ni wybodaeth berthnasol i bobl yng Nghymru.
"Dwi'n meddwl bod cydweithio efo cymunedau Cymreig yn allweddol oherwydd mae 'na bryder ella bod ni fel Cymry Cymraeg yn tueddu i aros a pheidio mynd i weld arbenigwyr. Yr hen ystrydeb bod 'na gywilydd oherwydd bod o'n rhywbeth yn yr ymennydd.
"Salwch ydy o fel salwch tase rhywun yn torri'i goes. Dwi'n meddwl bod o'n bwysig fel Cymry Cymraeg yn herio'r tabŵ 'na am dementia a bod o'n bwysig bod ni'n deall mwy amdano."
Un o aelodau Merched y Wawr fu'n helpu Catrin gyda'r pamffled ydy Ann Phillips, o gangen Pencader.
"Rwy'n credu bod hi'n bwysig bod pawb yn ymwybodol o'r effeithiau eraill sy'n dod gyda dementia," meddai. "Wrth i'r aelodau ddod i gael ymwybyddiaeth, byddwn ni'n gallu ehangu fwy o fewn y gymuned.
"Pawb sy'n aelod o Ferched y Wawr byddan nhw'n derbyn y pamffled yma gyda chopi o'r Wawr dros y dyddiau nesa'."
Ychwanegodd Catrin Hedd Jones: "Ddim isho codi braw ydan ni, isho codi ymwybyddiaeth - bod pobl yn gw'bod bod 'na gymorth os ydyn nhw'n poeni am hyn, bod nhw'n mynd i siarad efo arbenigwr a d'eud 'oes mae gen i dementia, ond mae hyn yn fy mhoeni i hefyd'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2021