Y mewnwr Kieran Hardy allan o weddill y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Ni fydd y mewnwr Kieran Hardy ar gael i chwarae i Gymru am weddill y Chwe Gwlad wedi iddo gael anaf yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf.
Sgoriodd Hardy gais unigol gwych yn Stadiwm Principality cyn gorfod gadael y maes cyn diwedd y fuddugoliaeth o 40-24.
Daeth mewnwr y Scarlets, Gareth Davies ymlaen yn ei le yn erbyn Lloegr, ac mae Cymru'n gobeithio y bydd Tomos Williams o'r Gleision yn holliach unwaith eto wedi anaf a gafodd yn y fuddugoliaeth dros Iwerddon ar ddechrau'r gystadleuaeth.
Bryd hynny cafodd Lloyd Williams ei alw i'r garfan.
Ar ôl sicrhau'r Goron Driphlyg yn erbyn Lloegr, gall Cymru ennill y Gamp Lawn os fyddan nhw'n curo'r Eidal yn Rhufain ar 13 Mawrth ac yna Ffrainc ym Mharis wythnos yn ddiweddarach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2021