Cymru'n wynebu'r hen elyn gyda'r Goron Driphlyg yn y fantol

  • Cyhoeddwyd
Pivac a JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm Wayne Pivac â gobeithion am Gamp Lawn, tra byddai buddugoliaeth yn hwb i obeithion Eddie Jones am y bencampwriaeth

Bydd Cymru'n croesawu Lloegr i Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn gyda'u golygon ar sicrhau'r Goron Driphlyg.

Mae Cymru wedi cael dechrau gwych i'r bencampwriaeth, gan drechu Iwerddon a'r Alban - dwy gêm ble y dechreuodd y gwrthwynebwyr fel ffefrynnau.

Llwyddodd Lloegr i daro 'nôl ar ôl colli yn erbyn Yr Alban ar y penwythnos agoriadol trwy roi cweir i'r Eidal. Mae'r Saeson yn gwybod bod ganddyn nhw siawns o ennill y bencampwriaeth pe bai modd iddyn nhw ennill eu tair gêm nesaf.

Bydd y gic gyntaf yng Nghaerdydd am 16:45 ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae George North a Josh Adams ymysg yr enwau mawr sy'n dychwelyd i'r tîm i herio'r Saeson

Er mor enfawr ydy'r gêm yma, dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac bod "gwobr fwy" na'r Goron Driphlyg yn y fantol - sef y Gamp Lawn.

Byddai buddugoliaeth brynhawn Sadwrn yn gam enfawr tuag at efelychu eu llwyddiant ddwy flynedd yn ôl a sicrhau Camp Lawn arall i Gymru.

Pe bai Cymru'n llwyddo i wneud hynny, fe fyddan nhw hefyd yn dod yn gyfartal â record Lloegr o 13 Camp Lawn yn y bencampwriaeth.

Ond dim ond unwaith yn y saith mlynedd ddiwethaf mae Cymru wedi llwyddo i drechu'r Saeson. Fe wnaethon nhw hynny wrth gipio'r bencampwriaeth yn 2019.

Yr unig dîm arall all sicrhau'r Gamp Lawn eleni ydy Ffrainc, ond fyddan nhw ddim yn chwarae'r penwythnos hwn wedi i'w gêm yn erbyn Yr Alban gael ei gohirio oherwydd achosion positif o'r coronafeirws yng ngharfan y Ffrancwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eddie Jones wedi pwysleisio'r angen am ddisgyblaeth gan ei chwaraewyr

Er y buddugoliaethau, cafodd Cymru help gan gerdyn coch yr un i'r Gwyddelod a'r Albanwyr. Oherwydd hynny, mae prif hyfforddwr Lloegr, Eddie Jones yn pwysleisio'r angen am ddisgyblaeth ymhlith ei garfan.

"Mae'n rhaid i ni gadw rheolaeth o'n hunain ac o'r gêm," meddai'r wythnos hon, gan enwi Alun Wyn Jones fel y chwaraewr allai gorddi'r dyfroedd.

Ond dywedodd Pivac ei fod yn disgwyl dim llai gan ei gapten, gan ddweud bod dwyster ei chwarae yn ei wneud yn arweinydd perffaith.

Ar wahân i'r capten, fe fydd hi'n ddiwrnod mawr i George North hefyd. Mi fydd o'n arwain y tîm i'r maes wrth iddo ennill ei 100fed cap rhyngwladol.

North ydy'r chwaraewr ieuengaf erioed i gyrraedd 100 o gapiau, ag yntau ond yn 28 oed.

Mae nifer o enwau mawr yn dychwelyd i herio'r hen elyn.

Mae Jonathan Davies yn dechrau fel rhif 12 yn hytrach na'r 13 arferol, gyda North yn ymuno fel y canolwr arall.

Mae'r blaenasgellwr Josh Navidi yn holliach hefyd, ac mae o wedi'i ddewis i ymuno â Justin Tipuric a Taulupe Faletau yn y rheng-ôl.

Mae Josh Adams hefyd yn dychwelyd ar ôl cael ei wahardd am ddwy gêm gynta'r Chwe Gwlad am dorri rheolau Covid-19, a Kieran Hardy fydd yn dechrau fel mewnwr.

Er hynny, does dim lle i Leigh Halfpenny wedi iddo ddioddef ergyd i'w ben yn erbyn Yr Alban, sy'n golygu bod Liam Williams yn symud o'r asgell i fod yn gefnwr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm yn Stadiwm Principality fydd gêm gyntaf Jonathan Davies yn y bencampwriaeth eleni

Tîm Cymru

Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Jonathan Davies, Josh Adams; Dan Biggar; Kieran Hardy; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Josh Navidi, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Rhodri Jones Leon Brown, Cory Hill, James Botham, Gareth Davies, Callum Sheedy, Willis Halaholo.

Tîm Lloegr

Elliot Daly; Anthony Watson, Henry Slade, Owen Farrell (c), Jonny May; George Ford, Ben Youngs; Mako Vunipola, Jamie George, Kyle Sinckler, Maro Itoje, Jonny Hill, Mark Wilson, Tom Curry, Billy Vunipola

Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Ellis Genge, Will Stuart, Charlie Ewels, George Martin, Ben Earl, Dan Robson, Max Malins