Merch wedi marw wedi 'digwyddiad difrifol' yn Ynys-wen
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De'n cadarnhau bod merch 16 oed wedi marw "yn sydyn ac heb esboniad" yn Y Rhondda ddydd Gwener.
Nid ydyn wedi cadarnhau achos y farwolaeth a bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal i sefydlu sut y bu farw.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Stryd Baglan yn ardal Ynys-wen, Treorci ychydig wedi hanner dydd ddydd Gwener wedi adroddiadau bod rhywun wedi cael ei drywanu.
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac maen nhw yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth am anafiadau difrifol.
Mae teulu'r ferch fu farw yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, sydd hefyd yn ceisio cysylltu gyda pherthnasau eraill iddi.
Er bod yr ymchwiliad newydd ddechrau mae'r heddlu wedi cadarnhau:
Nad yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un terfysgol;
Deellir bod y rhai oedd yn rhan o'r digwyddiad yn adnabod ei gilydd;
Nad yw ditectifs yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Cafodd ardal y tu allan i dŷ bwyta Chineaidd y Blue Sky ei chau, ac mae pabell fach wen wedi ei gosod y tu allan.
Yn ôl adroddiadau lleol, roedd nifer fawr o swyddogion heddlu yn yr ardal ac fe wnaeth ambiwlans awyr lanio yno am gyfnod.
Mae Stryd Baglan yn dal wedi cau er mwyn cynnal archwiliad fforensig trylwyr o'r ardal.
Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Rich Jones o Heddlu'r De: "Yn amlwg mae hwn yn ddigwyddiad difrifol iawn sydd wedi achosi sioc a phryder i'r gymuned leol ac yn ehangach.
"Mae gennym dîm o dditectifs yn gweithio'n galed i sefydlu'r union amgylchiadau sydd arwain at farwolaeth drasig y ferch ifanc yma.
"Fe fydd presenoldeb amlwg yr heddlu ar Stryd Baglan dros y penwythnos, ond fe fyddwn ni'n ailagor y ffordd ar y cyfle cyntaf.
"Yn y cyfamser, rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cymorth gan y gymuned leol."
Mae'r heddlu yn apelio am dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod *077519.
Ymateb
Ysgrifennodd AS Rhondda Chris Bryant ar ei dudalen Facebook yn gynharach ei fod yntau "wedi cael gwybod bod y digwyddiad yn Ynyswen yn ddigwyddiad mawr a "bydd y gwasanaethau brys yno am gyfnod hir iawn."
Gan erfyn ar bobl i osgoi'r ardal, ychwanegodd Mr Bryant: "Rwyf wir yn gobeithio bod neb wedi'i anafu'n ddifrifol iawn."
Fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford drydar: "Newyddion pryderus iawn am y digwyddiad difrifol yn Ynyswen. Rwy'n cael fy niweddaru am ddatblygiadau ac mae fy meddyliau gyda phawb yn y gymuned yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Plîs dilynwch gyngor yr heddlu ac osgowch yr ardal hyd nes y clywir yn wahanol."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.