Heddlu'n cyhoeddi enw merch 16 oed fu farw yn Ynys-wen
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw merch 16 oed fu farw mewn digwyddiad yn Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener.
Dywedodd y llu eu bod yn trin marwolaeth Wenjing Xu fel achos o lofruddiaeth.
Fe wnaeth Heddlu De Cymru gau Stryd Baglan yn ardal Ynys-wen, Treorci, brynhawn Gwener yn dilyn adroddiadau bod person wedi'i drywanu.
Dywedodd yr heddlu bod dyn 31 oed yng ngofal yr heddlu ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, a bod dyn arall 38 oed hefyd yn eu gofal mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae'r ddau yn cael eu trin yn yr ysbyty ar ôl iddyn nhw ddioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd teulu Wenjing Xu ei bod yn "berson tawel iawn".
"Roedd Wenjing yn helpu'r teulu cyfan, ac yn gweithio ym mwyty tecawê y teulu," meddai'r datganiad.
"Roedd hi'n mwynhau'r ysgol ac yn gweithio'n galed iawn. Roedd ei theulu'n ei charu'n fawr iawn."
Mae'r heddlu wedi annog y cyhoedd i beidio â dyfalu a rhannu straeon am yr hyn ddigwyddodd.
Ychwanegodd y llu bod y rheiny oedd yn rhan o'r digwyddiad yn adnabod ei gilydd ac nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Cafodd ardal y tu allan i dŷ bwyta Chineaidd y Blue Sky ei chau i'r cyhoedd ddydd Gwener, ac fe gafodd pabell fach wen ei gosod y tu allan.
Dywedodd yr Arolygydd Rich Jones o Heddlu'r De y byddai'r llu yn parhau ar y safle dros y penwythnos wrth i'w hymchwiliadau barhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021