Plaid Cymru'n addo asiantaeth economaidd newydd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cymru arianFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddwy brif wrthblaid yng Nghymru yn addo sefydlu asiantaethau datblygu economaidd

Mae Cymru angen asiantaeth newydd i ddatblygu economi'r wlad, yn ôl Plaid Cymru.

Mae'r blaid wedi addo sefydlu corff newydd o'r enw Ffyniant Cymru os yw mewn pŵer yn dilyn etholiadau'r Senedd fis Mai.

Yn ôl llefarydd y blaid dros yr economi, Helen Mary Jones AS, byddai'r corff yn cael ei arwain gan "arloeswyr o fyd busnes, ond hefyd arbenigwyr mewn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a datgarboneiddio".

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gefnu ar gorff tebyg - Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) - yn 2006.

'Cenedl gyfartal'

Mae'r cyhoeddiad yn golygu bod y ddwy brif wrthblaid yng Nghymru yn addo sefydlu asiantaethau datblygu economaidd os mai nhw fydd mewn pŵer wedi'r etholiad.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y bydden nhw yn ailsefydlu'r WDA, oedd â chyfrifoldeb dros annog twf busnesau yng Nghymru cyn iddo gau.

Yn siarad cyn ei haraith yng nghynhadledd rithiol Plaid Cymru ddydd Sadwrn, dywedodd Ms Jones mai "dim ond llywodraeth Plaid Cymru fydd â'r weledigaeth, yr uchelgais a'r angerdd i adeiladu'r genedl deg, werdd a llewyrchus - cenedl gyfartal - yr ydym i gyd am fyw ynddi".

Dywedodd Plaid Cymru y byddai'r asiantaeth yn canolbwyntio ar feithrin busnesau lleol, helpu busnesau i arloesi a chanolbwyntio ei sylw "lle mae ei angen fwyaf".

Helen Mary Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Mary Jones bod Llafur "wedi methu â chyflawni'r trawsnewidiad mor daer sydd ei angen"

"Gyda'r dasg o ddatblygu ein heconomi yn y fath fodd fel bod cyfleoedd yn cael eu creu'n deg ar draws ein cenedl, bydd pwyslais ar fynd i'r afael â phatrymau hanesyddol o wahaniaethu sydd wedi arwain at anghyfiawnder cronig ac anghydraddoldeb yn y ffordd y mae ein heconomi wedi gweithredu," meddai Ms Jones.

"Wrth nesu at yr etholiad ym mis Mai, bydd Llafur wedi cael 21 mlynedd lle maen nhw wedi methu â chyflawni'r trawsnewidiad mor daer sydd ei angen ar Gymru.

"Mae traean o'n plant mewn tlodi, mae creithiau Thatcheriaeth yn dal yn amlwg ar ein Cymoedd ac mae ein cymunedau gwledig dal yn fregus."

Dydd Sadwrn ydy ail ddiwrnod cynhadledd Plaid Cymru, sy'n cael ei gynnal ar y cyfryngau cymdeithasol.