Y DU yn 'nesáu at y dibyn gyda Johnson wrth y llyw'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y Prif Weinidog Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford yn hunan-ynysu ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd â'r feirws

Mae undeb y Deyrnas Unedig yn "symud yn agosach at y dibyn gyda phob diwrnod" mae Boris Johnson yn brif weinidog, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Mewn sesiwn holi ac ateb ddydd Iau, dywedodd Mark Drakeford bod y prif weinidog yn dangos "gelyniaeth amlwg" tuag at ddatganoli.

Os ydy'r Blaid Geidwadol yn ei gadw fel arweinydd, meddai, "yna i bob pwrpas maen nhw'n dweud bod yr undeb ar ben".

Daw ei sylwadau wedi cadarnhad bod Mr Drakeford yn hunan-ynysu ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Mr Drakeford yn cymryd y cam rhag-ofalus yma er mwyn bod yn ddiogel.

'Anodd dadlau dros y DU'

Wrth drafod materion ariannol gyda Phwyllgor Materion Cymreig San Steffan, dywedodd Mr Drakeford nad oes "unrhyw sicrwydd y bydd un dimau goch" o'r Gronfa Ffyniant yn dod i Gymru.

Mae'r gronfa wedi achosi ffrae rhwng gwleidyddion, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i gymryd rheolaeth o'r gwariant ym mhob rhan o'r wlad.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'r gronfa'n cael ei gweinyddu gan weinidogaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU.

Dywedodd ei fod "bryderus" wedi'r penderfyniad ddydd Mercher gan yr adran honno ynglŷn â'r Gronfa Trefi yn Lloegr.

Ychwanegodd fod ei benderfyniadau wedi'u "beirniadu'n hallt iawn, yn anad dim oherwydd y gogwydd gwleidyddol amlwg iawn yn y ffordd yr oedd cronfeydd yn cael eu gwasgaru".

Dywedodd hefyd bod y ffrae ynghylch y gronfa ffyniant yn ei gwneud hi'n "anodd i bobl sydd eisiau dadlau o blaid y Deyrnas Unedig".

Ychwanegodd ei fod yn dangos y "gelyniaeth" tuag at ddatganoli "wrth wraidd y llywodraeth".

Dywedodd Mr Drakeford bod "yr undeb yn symud yn agosach at y dibyn gyda phob diwrnod" mae Mr Johnson yn brif weinidog.

Yr economi i ailagor?

Wrth drafod Covid-19, honnodd Mr Drakeford hefyd y gallai dull mwy gofalus yng Nghymru fod wedi arwain at lai o farwolaethau coronafeirws.

Dywedodd bod blwch o 10% yn y gyfradd o farwolaethau ychwanegol rhwng Cymru a Lloegr yn ystod y don gyntaf.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "ei chael hi'n anodd deall [y dystiolaeth] yn llawn" oherwydd bod gan Gymru "boblogaeth hŷn, sâl, dlotach".

Ond dywedodd Mr Drakeford fod Cymru "yn dilyn y cyngor gwyddonol" ac mai'r cyngor yw "gweithredu'n gynnar, cymryd yr holl gamau sydd eu hangen arnoch chi ar y dechrau, a'r ffordd honno fe fyddwch chi'n achub bywydau".

Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Anghysbell' - dyna ddisgrifiad Mr Drakeford o'i berthynas gyda Boris Johnson

Ond dywedodd Mr Drakeford wrth y pwyllgor y gallai fod "cyfleoedd" i agor rhywfaint o'r economi yn gynharach yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr.

Dywedodd y byddai codi cyfyngiadau yn cyd-fynd yn fras gyda chynlluniau ledled y DU, ac y byddai pob llywodraeth yn edrych i ailagor rhannau o'r gymdeithas "fel y mae'r amodau'n caniatáu".

Ychwanegodd Mr Drakeford fod cyfraddau yng Nghymru "yn sylweddol is nag ydyn nhw yn Lloegr".

Dywedodd y gallai Cymru "adfer rhywfaint o weithgaredd economaidd yn gynharach nag y mae cynlluniau'r Prif Weinidog [y DU] yn ei awgrymu ar hyn o bryd".

"Ni fyddwn am wrthod cyfle i fusnesau yng Nghymru fynd yn ôl i fasnachu oherwydd ein bod yn aros i rywun arall fod yn y sefyllfa yr oeddem eisoes wedi cyrraedd", meddai.

Fe wnaeth Mr Drakeford hefyd gydnabod fod y berthynas rhyngddo ef â Phrif Weinidog y DU Boris Johnson yn un "anghysbell".

Dywedodd mai dim ond unwaith y mae wedi cwrdd â Mr Johnson ar ei ben ei hun, ond ei fod wedi bod mewn nifer o gyfarfodydd lle bu "nifer fawr o bobl eraill yn bresennol".

Ychwanegodd nad yw'r Prif Weinidog eto wedi galw cyfarfod o'r Cydbwyllgor Gweinidogol, a'i fod wedi cael cyswllt "cymedrol" â'r Prif Weinidog.

"Mae arna i ofn mai anaml y byddwn yn cytuno," meddai Mr Drakeford.