Arweinydd cyngor yn ymddiswyddo ar ôl galw AS yn 'fuwch'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymddiswyddo wedi i recordiad ddod i'r amlwg ohono'n galw Aelod o'r Senedd Plaid Cymru yn "fuwch".
Fe wnaeth y Cynghorydd Rob Jones y sylw am AS Plaid Cymru, Bethan Sayed mewn cyfarfod yn 2019.
Dywedodd yr aelod Llafur bod y recordiad wedi ei olygu i'w wneud i edrych yn ddrwg, ac nad yw hyn yn "adlewyrchu fy ngwerthoedd".
Mae wedi gadael ei rôl fel arweinydd y cyngor a gofyn i'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus ymchwilio i'r mater.
Mae'r Blaid Lafur wedi cadarnhau eu bod wedi gwahardd y Cynghorydd Jones tra'u bod yn cynnal ymchwiliad.
Dywedodd Mrs Sayed bod y sylwadau yn "warthus", tra bod arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw arno i weithredu.
'Sylw sarhaus'
Cafodd y recordiad ei wneud yn 2019 mewn cyfarfod preifat y Blaid Lafur yn ardal Pontardawe.
Dywedodd y Cynghorydd Jones nad oedd yn gwybod bod y sgwrs yn cael ei recordio.
"Mae'r recordiad yn amlwg wedi cael ei olygu er mwyn adlewyrchu'n ddrwg arna i," meddai mewn datganiad.
"Dydy cynnwys y recordiad ddim yn adlewyrchu fy ngwerthoedd fel unigolyn na gwerthoedd y Blaid Lafur, a dydyn nhw ddim yn cyrraedd y safon sydd i'w ddisgwyl o aelod etholedig.
"Yn ystod y sgwrs gellir clywed fy mod wedi gwneud sylw sarhaus am Aelod o'r Senedd.
"Rydw i wedi ysgrifennu at yr aelod yn ymddiheuro'n ddiamod am y sylw a wnes i yn y cyfarfod preifat yma."
Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod wedi gwahodd yr ombwdsmon i ymchwilio i'r digwyddiad ac na fydd yn parhau fel arweinydd y cyngor nes i'r ymchwiliad gael ei gwblhau.
Mae Mrs Sayed wedi galw am "ymchwiliad llawn" i'r mater, a bod angen gwneud hynny "ar frys".
"Rwy'n teimlo fod y geiriau a ddefnyddiwyd ar y recordiad, a'r tôn sy'n cael ei ddefnyddio gan y Cynghorydd Rob Jones yn ei feirniadaeth ohona i, cynghorwyr eraill ac aelodau o'r gymuned, yn warthus," meddai.
Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn datganiad y byddan nhw yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad, ac y bydd y dirprwy arweinydd, y Cynghorydd Edward Latham yn cymryd cyfrifoldebau'r Cynghorydd Jones dros dro.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2020
- Cyhoeddwyd28 Awst 2020
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021