Amodau amhosib wrth geisio magu teulu newydd, medd AS

  • Cyhoeddwyd
Bethan Sayed with her baby
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Sayed, gydag Idris

Mae angen i ddiwylliant 24/7 gwleidyddiaeth newid, yn ôl AS na fydd yn ceisio am gyfnod arall yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Cyhoeddodd yr Aelod o Senedd Cymru, Bethan Sayed, yr wythnos ddiwethaf na fyddai'n sefyll yn 2021 er mwyn treulio mwy o amser gyda'i mab ifanc, Idris.

Dywedodd yr aelod Plaid Cymru: "Yn amlwg dydw i ddim eisiau troi pobl eraill oddi ar wleidyddiaeth ond i mi roedd yn rhywbeth roeddwn i'n teimlo bod yn rhaid i mi ei wneud.

"Rwy'n credu bod angen i ni newid y diwylliant.

"Mae'r ffaith ein bod yn gweithio bob awr, mae'r gofynion ar ein hamser yn golygu bod pobl eisiau pob darn ohonom drwy'r amser ac mae'n gwbl amhosibl pan rydych chi'n ceisio magu teulu newydd felly roeddwn i'n meddwl mai hwn oedd y penderfyniad iawn i mi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Sayed wedi penderfynu peidio ymgeisio eto er mwyn treulio mwy o amser gyda'i mab

Dywedodd Ms Sayed, sydd wedi bod yn aelod o Senedd Cymru ers 2007, y gallai ei phenderfyniad fod yn wahanol pe bai mwy o gefnogaeth ar gael.

"Rwy'n credu pe bai rhyw fath o fentrau rhannu swyddi wedi bod, gallwn fod wedi dychwelyd yn rhan amser a gweithio gyda chydweithiwr arall."

Mae hi hefyd yn teimlo y byddai cynyddu nifer yr aelodau yn lleihau'r baich ar unigolion.

"Mae angen arweinyddiaeth wrth gynyddu maint ein Senedd fel y gallwn dynnu'r llwyth gwaith oddi ar unigolion, byddai hynny hefyd wedi helpu," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ystyriaeth yn cael ei roi i weld a ddylid cynyddu maint y Senedd o 60 i 80 aelod

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd fod rhai newidiadau wedi eu gwneud i geisio gwella'r sefyllfa, fel adnoddau ychwanegol i aelodau ar absenoldeb rhiant a chyfraniad tuag at gostau gofal plant i aelodau sy'n ofynnol iddynt weithio y tu hwnt i oriau gwaith.

Meddai llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd: "Mae'r Senedd wedi esblygu dros y blynyddoedd ond mae rhagor y gellir ac fe'i bwriedir i'w wneud.

"Y llynedd fe aeth rhan gyntaf y Bil Senedd ac Etholiadau drwy'r Senedd ac mae ail ran y Bil diwygio ar ei thaith nawr.

"Mi fydd y pwyllgor sydd wedi ei sefydlu i edrych ar y datblygiadau posib yn adrodd eu canfyddiadau yn fuan, ac mae hynny yn cynnwys cynigion sydd yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon y mae Bethan Sayed wedi eu codi fel Aelod o'r Senedd.

"Mae'r Bwrdd Taliadau annibynnol hefyd wedi gwneud darn o waith yn edrych ar y rhwystrau, ac wedi cyflwyno newidiadau i'r lwfansau sydd ar gael i aelodau."

Dywed Jessica Blair, cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru fod angen i ni "roi'r gorau i dincio o amgylch yr ymylon" a mynd i ddatrys y materion sylfaenol.

"Mae angen i'r Senedd gymryd camau ymarferol nawr i wneud yn siŵr ei bod yn le llawer mwy cyfeillgar i deuluoedd," meddai.

Cynyddu maint y Senedd?

"Mae angen i ni edrych ar fesurau ymarferol fel rhannu swyddi, creche i aelodau a staff, hyblygrwydd o ran oriau gwaith a gweithio o bell.

"Ond yn y pen draw mae angen i ni roi'r gorau i dincio o amgylch yr ymylon a delio â'r mater sylfaenol, sef nad oes digon o gapasiti yn y Senedd, ac mae angen mwy o aelodau arnom."

Ar hyn o bryd mae Pwyllgor Diwygio Etholiadol y Senedd yn edrych i weld a ddylid cynyddu maint y Senedd o 60 i 80 neu 90 aelod.

Mae disgwyl iddynt gyhoeddi eu hadroddiad cyn hir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alex Davies-Jones: "Y pandemig wedi dangos bod gweithio mwy hyblyg yn bosibl"

Nid dim ond gwleidyddion ym Mae Caerdydd sy'n ei chael hi'n anodd dod i ben wrth ddelio gyda gwleidyddiaeth a bywyd cartref.

Roedd Alex Davies-Jones yn dal i fwydo o'r fron ac ar absenoldeb mamolaeth o'i swydd flaenorol pan gafodd ei hethol i gynrychioli Pontypridd yn San Steffan ym mis Rhagfyr 2019.

"Roedd yn anodd iawn," meddai.

"Pan oedd ar ei anoddaf yn ystod y dechrau, roeddem yn pleidleisio ar ddeddfwriaeth Brexit tan yr oriau mân, roedd dadleuon yn cael eu cynnal, ac yna byddwn yn eistedd ar y pwyllgorau biliau y diwrnod canlynol a bu'n rhaid imi aros i fyny'n hwyr i baratoi areithiau ar gyfer hynny.

"Roeddwn yn bwydo o'r fron ac roedd yn rhaid i mi gael fy ngŵr i ddod ag ef ar yr ystâd er mwyn imi ei fwydo rhwng pleidleisiau yn y lobi.

"Hynny oedd y peth mwyaf heriol, neu pan na fyddai'n cysgu a'r cyfan yr oedd ei eisiau oedd mam a chwtsh."

'Lles meddyliol'

Ond mae Ms Davies-Jones yn credu bod y pandemig wedi dangos bod gweithio mwy hyblyg yn bosibl.

"Rwy'n credu ein bod ni wedi sylweddoli dros yr ychydig fisoedd diwethaf nad oes angen i'r diwrnod gwaith fod mor gaeth ag yr arferai fod," meddai.

"Gallwn ddechrau yn hwyrach neu gychwyn yn gynharach i orffen yn gynharach neu wneud sifftiau hollt neu wneud efallai pum diwrnod o waith wedi'i gywasgu'n bedwar.

"Cyn belled â bod y swydd yn cael ei chyflawni, yna dylai iechyd a lles meddyliol pawb ddod yn gyntaf.

"Yn bendant mae angen i bethau newid - oes angen i ni fod yn pleidleisio tan yr oriau man a pham bod angen dadleuon tan yr oriau man hefyd?

"Tydi hynny ddim yn ffafriol i berthnasoedd gweithio da na rhai personol - ac nid yw'n neud lles i iechyd meddwl unrhyw un."

Dywedodd llefarydd ar ran Tŷ'r Cyffredin bod newidiadau eisoes wedi dod i rym i ganiatáu ASau i ddod a phlant ifanc gyda nhw wrth bleidleisio, ac i sefydlu'r Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb fel un parhaol.

"Mae unrhyw benderfyniadau ynghylch oriau neu ddulliau pleidleisio yn fater i aelodau - ond petai'r Tŷ yn penderfynu newid dull, byddwn yn parhau i gefnogi newid ym mha bynnag fodd mae'r Tŷ yn cytuno arno."