Blog Vaughan Roderick: Cario'r Groes

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig

Pe bai aelodau'r Senedd yn cael ymgynnull ym Mae Caerdydd mae'n debyg y bydda 'na ambell i ochenaid o ryddhad ac ambell wydryn yn cael ei godi heddiw i ddathlu'r ffaith y bydd etholiadau eleni yn cael eu cynnal ar Fai'r 6ed, doed a ddelo.

Roedd hyd yn oed ystyried gohiriad yn hunllefus i'r pleidiau gyda'r ymgyrchoedd i gyd wedi eu trefnu ac yn barod i fynd.

Serch hynny, mae'r dasg sy'n wynebu'n swyddogion etholiadol yn heriol a dweud y lleiaf.

Nid yn unig y mae'n rhaid cynllunio gorsafoedd pleidleisio sydd yn ddiogel o safbwynt peidio lledaenu'r coronafeirws ond, am y tro cyntaf, rhaid yw trefnu dau etholiad sy'n cael eu cynnal dan reolau tra gwahanol i'w gilydd.

Mae'r dyddiau pan oedd pleidleisio'n golygu dim byd mwy na rhoi'ch enw i'r swyddog a tharo croes ar bapur wedi hen ddiflannu.

Cymerwch eich hawl i bleidleisio er enghraifft.

Os ydych chi'n 16 neu 17 mlwydd oed fe gewch chi bleidleisio yn etholiad Senedd Cymru eleni ond nid yn yr etholiadau i ethol comisiynwyr yr heddlu.

Fe fydd papur pleidleisio etholiadau'r heddlu yn gofyn am eich ail ddewis o ymgeisydd ond dewisiadau cyntaf yn unig sy'n cyfri yn etholiadau'r Senedd.

Y rheswm am y gwahaniaeth yw bod etholiadau Cymreig - hynny yw, etholiadau i Senedd Cymru a'n hawdurdodau lleol - bellach yn cael eu cynnal yn unol â deddfwriaeth Gymreig.

Mae etholiadau'r heddlu ynghyd ag etholiadau Tŷ'r Cyffredin ar y llaw arall yn fater i San Steffan.

Mae'n debyg y bydd y gwahaniaethau rhwng y ddwy system yn dod yn fwyfwy amlwg mewn blynyddoedd i ddod wrth i'r Ceidwadwyr yn San Steffan ddilyn esiampl eu cefndryd yn America trwy ddefnyddio twyll etholiadol posib fel cyfiawnhad dros dynhau'r rheolau ynghylch pleidleisio.

Yn hwyr neu'n hwyrach mae'n debyg y bydd y ddwy system mor wahanol i'w gilydd nes ei gwneud hi bron yn amhosib cynnal etholiadau cyfochrog ar yr un diwrnod.

Fe ddylai pethau weithio'n iawn eleni ond call iawn oedd gohirio'r cyfri tan drannoeth y ffair!