'195 o swyddi Aston Martin yn y fantol yn Sain Tathan'

  • Cyhoeddwyd
Tu fewn i ffatri Aston Martin yn Sain TathanFfynhonnell y llun, Max Earey
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni'n edrych ar ryddhau staff a gweithwyr yn Sain Tathan, gan ymgynghori gyda staff ac undebau

Mae tua 200 o swyddi yn y fantol ar safle Aston Martin ym Mro Morgannwg wrth i'r cwmni cynhyrchu ceir "symud i gyfnod newydd".

Dyw'r cwmni heb gadarnhau nifer y diswyddiadau tebygol yn Sain Tathan ond mae undeb Unite yn awgrymu isafswm o 195.

Mae 95 o'r gweithwyr yn Sain Tathan yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y cwmni cynhyrchu ceir, a'r gweddill yn gweithio i'r asiantaeth cyflenwi gweithwyr cynhyrchu, Millbank Priory Design Services.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn ystyried ar ddiwedd y broses ymgynghori a ddylid mynnu unrhyw ad-daliad o'r arian cyhoeddus y derbyniodd y cwmni i gynhyrchu ceir yn ne Cymru.

'Siomedig eithriadol'

Yn ôl Unite, fe ddechreuodd cyfnodau ymgynghori wythnos diwethaf - 30 diwrnod yn achos gweithwyr Aston Martin a 45 diwrnod yn achos gweithwyr yr asiantaeth.

"Mae'n siomedig eithriadol i weithwyr oedd wedi gadael swyddi diogel eraill yn y gobaith o sicrwydd gwaith hirdymor yn Aston Martin," dywedodd Bryan Godsall, swyddog rhanbarthol Unite.

"Byddwn yn gweithio'n galed i warchod gymaint o swyddi â phosib o fewn yr ymgynghoriad gydag Aston Martin."

Ffynhonnell y llun, Aston Martin
Disgrifiad o’r llun,

Lagonda - un o'r ceir sy'n cael eu cynhyrchu yn Sain Tathan

Mae Unite yn credu bod tua 900 o bobl yn cael eu cyflogi yn y safle.

Mae'n dweud bod graddfa'r diswyddiadau arfaethedig "yn destun pryder mawr, ac yn codi cwestiynau mawr ynghylch arferion cyflogaeth Aston Martin a'i ymroddiad ehangach i dde Cymru".

Cafodd cadeirydd newydd ei benodi'n ddiweddar i geisio gwella perfformiad ariannol y cwmni.

'Symud i gyfnod newydd'

Mewn datganiad dywedodd llefarydd bod "Aston Martin wedi cyhoeddi HR1 [rhybuddion diswyddo] ar gyfer ei safle yn Sain Tathan ac wedi dechrau proses ymgynghori gyda staff ac undebau llafur".

Cadarnhaodd hefyd eu bod "yn edrych ar ryddhau contractwyr yn yr adnodd yn Sain Tathan".

Mae'r cwmni, meddai, yn "symud i gyfnod newydd, gyda buddsoddiad newydd a chynllun busnes newydd i roi'r cwmni mewn sefyllfa i lwyddo, ac i weithredu fel busnes hunangynhaliol yn y dyfodol agos".

Ychwanegodd bod angen sicrhau dyfodol eu safleoedd cynhyrchu yn Sain Tathan a Gaydon yn Sir Warwick trwy wneud y busnes yn fwy cost effeithiol.

Mae'n bwriadu gwneud hynny trwy lansio 'Cynllun Horizon' "i roi bywyd newydd i'w gynnyrch" a gweithredu'n chwim ac effeithlon ar bob lefel o'r busnes.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Aston Martin bod rhaid gweithredu'n wahanol i ddiogelu dyfodol eu safle yn Sain Tathan

Cafodd Aston Martin £19m mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru yn 2018.

Dywedodd lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd hwn yn gyfnod gofidus i weithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Rydym yn gweithio gydag Aston Martin i gefnogi'r gweithlu ac yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n fanwl.

"Mae'r newyddion yn tanlinellu'r heriau economaidd sy'n wynebu llawer o gwmnïau, a'r penderfyniadau eithriadol anodd mae rhai'n eu hwynebu.

"Fel ymhob achos o gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae yna amodau clir ynghlwm â'r gefnogaeth y derbyniodd Aston Martin a byddwn yn ystyried a fydd unrhyw ad-daliad yn briodol unwaith y cawn wybod am ganlyniad yr ymgynghoriad.

"Bydd ein rhaglenni Cymru'n Gweithio a ReAct yn barod i gefnogi gweithwyr sydd wedi eu heffeithio."

'Defnydd priodol o arian cyhoeddus?'

Mae'r cyhoeddiad "yn newyddion ofnadwy i'r gweithwyr" yn Sain Tathan, medd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, sy'n galw am gefnogaeth iddyn nhw yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Dywedodd bod hi'n "sgandal" fod Llywodraeth Cymru wedi "taflu" miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr at Aston Martin "dim ond iddo gael ei daflu'n ôl i'w hwynebau trwy dorri bron 200 o swyddi".

Ychwanegodd bod angen atebion i gwestiynau difrifol ynghylch y cytundeb rhwng y cwmni a Llywodraeth Cymru "ac a oedd hyn yn ddefnydd priodol o arian cyhoeddus".

Mae hefyd yn gofyn i ba raddau roedd Llywodraeth Cymru'n ymwybodol o drafferthion ariannol y cwmni.

Mae'r newyddion yn "ergyd ofnadwy", medd llefarydd economi'r Ceidwadwyr Cymreig, Russell George.

Cafodd y prosiect ei "gefnogi'n drwm gan weinidogion Llafur gyda bron £20m o arian trethdalwyr a'r addewid i gannoedd o swyddi newydd yn y rhanbarth, ond mae wedi methu," meddai.

Ychwanegodd: "Rhaid i weinidogion Llafur fod yn glir ynghylch be aeth o'i le, pa alwadau fu i Aston Martin ynghylch creu swyddi newydd yn ne Cymru, a pha gamau sydd wedi eu cymryd i ddiogelu arian trethdalwyr Cymru."

Pynciau cysylltiedig