Sefydlu gorsaf rheoli ffiniau ger porthladd Caergybi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
caergybi

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Gorsaf Rheoli Ffiniau'n cael ei sefydlu ar Barc Cybi - parc busnes ger Caergybi - fel sy'n ofynnol nawr bod y DU wedi gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau.

Gan nad oes masnach ddi-rwystr bellach wedi'r cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd, mae angen gwiriadau ar rai nwyddau sy'n cyrraedd y DU o'r UE, ac o ganlyniad mae Gorsafoedd Rheoli Ffiniau'n cael eu sefydlu ar draws y DU.

Yng Nghaergybi, bydd angen gwirio nwyddau fel anifeiliaid, planhigion a nwyddau sy'n deillio o anifeiliaid sy'n dod i mewn i Gymru o Weriniaeth Iwerddon er mwyn sicrhau nad oes bygythiad i iechyd cyhoeddus, na pherygl o ledaenu heintiau anifeiliaid na phlanhigion. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r gwiriadau yma.

Bydd ymgynghoriad cynllunio ar y safle o dan Orchymyn Datblygiad Arbennig yn dechrau yn fuan.

Fe fydd angen gorsafoedd tebyg i borthladdoedd de orllewin Cymru, ac mae'r gwaith wedi dechrau gyda chymorth awdurdodau lleol i asesu safleoedd posib.

'Amserlen rhy heriol'

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Daeth newid mawr i'r berthynas gyda'r UE ar 1 Ionawr gyda diwedd aelodaeth y DU o'r farchnad sengl a'r undeb tollau.

"O ganlyniad mae angen isadeiledd newydd sylweddol i wirio nwyddau. Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am wiriadau ar anifeiliaid a phlanhigion sy'n dod o Weriniaeth Iwerddon.

"Rhaid i ni nawr sicrhau fod porthladdoedd Cymru yn barod am y newidiadau.

"Rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU ddoe bod amserlen wreiddiol cyflwyno gwiriadau ffiniau yn rhy heriol, ac rydym yn parhau mewn trafodaethau gyda nhw i wneud yn siŵr fod digon o amser yn cael ei roi i addasu i'r amgylchiadau newydd yn effeithiol."

Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y trefniadau ffiniau newydd i borthladd Caergybi yn gwarchod iechyd cyhoeddus a masnach yn y dyfodol.

"Er bod ansicrwydd o hyd, mae lleoli'r Orsaf Rheoli Ffiniau ar Barc Cybi yn diogelu masnach drwy'r porthladd ac yn creu cyfleoedd newydd am waith sydd mawr ei angen.

"Rydym yn gwerthfawrogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r porthladd ac i Ynys Môn. Ein gobaith nawr yw y bydd y datblygiad yma yn profi'n gatalydd i fusnesau eraill cysylltiedig ar Barc Cybi i greu canolbwynt cefnogol a fydd yn hwb mawr i'r economi leol."

Pynciau cysylltiedig