Atgyfodi SuperTed ar gyfer cyfres newydd

  • Cyhoeddwyd
SuperTedFfynhonnell y llun, Splash Entertainment
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bennod olaf o SuperTed ei chreu yn 1986

Fe oedd y tedi bêr gyda phwerau hud a oedd yn ffefryn i genhedlaeth o blant - a nawr mae SuperTed yn dod yn ôl yn fyw unwaith eto.

35 mlynedd ers y gyfres ddiwethaf, mae'r tîm y tu ôl i SuperTed ar fin taenu llwch hud dros y creadur bach a'i ffrindiau eto, ac ail-greu'r gyfres ar gyfer cynulleidfa newydd.

Bydd y gwaith yn dechrau yn ddiweddarach eleni, a'r gobaith yw y bydd SuperTed yn ôl ar sgriniau teledu erbyn 2023.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Byddwn yn hoffi gweld Superted yn ôl ar y sgrin, ac mae trafodaethau ar y gweill. Ond mae dipyn o ffordd i fynd eto."

Yn un o gyfresi mwyaf llwyddiannus S4C cafodd SuperTed ei greu gan Mike Young, a oedd yn ceisio helpu ei lys-fab pedair oed i gysgu.

Mae ei gwmni cynhyrchu, sydd unwaith eto y tu ôl i'r gyfres newydd yma, hefyd eisiau i sêr Hollywood Cymreig, fel Michael Sheen, Rhys Ifans ac Ioan Gruffudd, helpu adrodd y straeon ar eu newydd wedd a lleisio'r cymeriadau, gan gynnwys Smotyn a'r dihiryn, Dai Texas.

SuperTed oedd y sioe gyntaf a ddarlledwyd ar S4C ar ddiwrnod cyntaf ei darllediad ym mis Tachwedd 1982.

Geraint Jarman wnaeth leisio rhan SuperTed yn wreiddiol yn y Gymraeg, gyda Martin Griffiths, Valmai Jones, Garry Williams, Huw Ceredig a Emyr Young yn lleisio'r cymeriadau eraill.

Cafodd hanes yr arth bach, a'i anturiaethau, eu darlledu mewn 128 o wahanol wledydd a'i drosleisio i 32 o wahanol ieithoedd cyn y bennod olaf yn 1986.

Yn 1984, SuperTed oedd y gyfres cartŵn gyntaf o Brydain i gael ei darlledu ar The Disney Channel yn yr Unol Daleithiau.

Ffynhonnell y llun, Splash Entertainment
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd tair cyfres o SuperTed yn yr 1980au i S4C a'r BBC

Cafwyd cyfres newydd o SuperTed yn yr Unol Daleithiau yn 1992, y tro hwn o dan y teitl The Further Adventures of Superted.

Cwmni Hanna Barbera oedd yn gyfrifol am ei chynhyrchu, ond ni chafwyd dim mwy na'r un gyfres honno.

Bellach, mae'r rhan fwyaf o'r hawliau cynhyrchu ar gyfer SuperTed wedi cael eu prynu'n ôl gan ei grëwr o Gymru.

"Y cynllun yw ail-lansio SuperTed a dod ag ef yn ôl mewn penodau 11 munud o hyd," meddai Mike Young.

Mae Mr Young bellach yn animeiddiwr gyda'i gwmni cynhyrchu adloniant ei hun yn Hollywood ac wedi ennill gwobrau Emmy a Bafta.

"Byddai'n rhaid i ni gyflwyno i Netflix, Disney+, HBO Max a'r math yna o gynhyrchwyr, oherwydd eich bod chi'n edrych ar fuddsoddiad o tua $11m (£7.9m) ar gyfer cyfres lawn yn CGI."

Ffynhonnell y llun, Mike Young
Disgrifiad o’r llun,

Mike Young (ar y dde) gyda'i fab Pete, sy'n gyfrifol am yr ochr ddatblygu yn y cwmni, gydag wyrion Mike, Bodhi ac Owen

Mae Mike yn gobeithio y gall Derek Griffiths, cyn seren y gyfres Play School a Coronation Street a leisiodd SuperTed, a'r actor Melvyn Hayes, llais Sgerbwd, ddychwelyd mewn unrhyw benodau newydd.

Ychwanegodd: "Byddwn i wrth fy modd pe bai sêr Cymru fel Rhys Ifans, Ioan Gruffudd a Michael Sheen, sydd dwi'n gw'bod yn ffans o SuperTed, yn gallu chwarae rhannau mewn cyfres newydd hefyd."

Mae Splash Entertainment, cwmni Mike Young, wedi gwneud 42 cyfres cartŵn a 25 ffilm ers cael eu ffurfio 30 mlynedd yn ôl.

"Waeth beth rydw i wedi'i wneud ers hynny, pryd bynnag y byddaf yn hyrwyddo rhywbeth mae pobl newydd bob amser eisiau siarad â mi am SuperTed," meddai Mike, sy'n 75 oed.

"O'r dechrau i'r diwedd, mae creu cyfres cartŵn yn broses dwy flynedd. Rwy'n rhedeg allan o amser gan fod yn rhaid i mi feddwl am ymddeol ryw bryd.

"Ond SuperTed yw'r cartŵn a roddodd y bywyd sydd gennyf i, ac rwyf am ddod ag ef yn ôl."

Pynciau cysylltiedig