Ymgyrch merch ifanc o Wynedd i atal teganau plastig cylchgronau

  • Cyhoeddwyd
Skye mewn siop yn dangos cylchgrawn gyda teganau plastigFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Skye fod nifer o gylchgronau plant yn dod gyda theganau nad yw'n bosib eu hailgylchu

Mae merch 10 oed o Wynedd yn ymgyrchu i atal teganau plastig rhag cael eu cynnwys mewn cylchgronau plant oherwydd ei phryderon am newid hinsawdd.

Fe lansiodd Skye ddeiseb ar ôl cael llond bol o dderbyn "sbwriel plastig rhad" gyda'i hoff gylchgrawn.

Roedd hi'n poeni bod y teganau'n creu ôl-troed carbon mawr ac yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y pendraw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y gall ei chais helpu Cymru i ddod yn rhydd o wastraff.

Daw ar ôl i gwmni Burger King roi'r gorau i gynnwys teganau plastig gyda'u prydau plant, ac fe roddodd McDonald's opsiynau o lyfrau i blant yn dilyn ymgyrch gan ddwy chwaer.

Ysgrifennodd Skye, sy'n aml yn casglu sbwriel yn ei phentref ger Fairbourne, at gyhoeddwyr i'w annog i roi'r gorau i ddefnyddio plastig untro yn un o'i hoff gylchgronau, Horrible Histories.

"Mae'n sbwriel llwyr," meddai. "Nid yn unig mae'n dod mewn bag plastig, mae ganddo becyn plastig ac yna mae'r anrhegion am ddim."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrch Skye wedi'i gefnogi gan wleidyddion, Surfers against Sewage, a Kids Against Plastic

Dywedodd Skye fod nifer o'r teganau plastig yn "ddibwrpas" gan gynnwys beiro sgerbwd, nad oedd "hyd yn oed yn gallu ysgrifennu efo hi", a tafod rwber, ymennydd, llygod mawr, cynrhon, a llysnafedd sy'n torri.

Mewn ymateb i'w llythyr, dywedodd Kennedy Publisherseu bod yn "gweithio'n galed iawn i wneud eu cylchgronau'n gyfeillgar i'r amgylchedd" a bod y cylchgronau wedi'u gwneud o bapur o goedwigoedd cynaliadwy, tra bod y deunydd pacio wedi'i wneud gan ddefnyddio deunydd ailgylchadwy.

Dywedodd fod y teganau plastig yn ailgylchadwy mewn "rhai ardaloedd" a'u bod yn rhan bwysig o'r cylchgrawn ac nad oedden nhw wedi'u bwriadu at ddefnydd sengl.

Ond dywedodd Skye ei bod eisiau gweld y teganau'n cael eu tynnu'n gyfan gwbl, yn ogystal â gweld y cylchgronau'n cael eu gwneud o bapur - unai heb eu lapio neu wedi'u lapio mewn papur er mwyn lleihau deunydd pacio.

"Os byddech chi'n eu gweld mewn adran deganau, ni fyddech chi'n eu prynu," meddai Skye, sy'n cadw'r teganau mewn blwch i ddangos i bobl sawl tegan y mae hi'n ei gael yn hytrach na'u taflu.

"Mae gen i lwyth o ddannedd ffug a chynrhon rwber... dydyn nhw ddim yn dda iawn ar gyfer chwarae triciau, dydyn nhw ddim yn edrych fel rhai go iawn. Dwi wedi cael tri pot o slime ac mae'n ofnadwy o sâl - mae'n torri."

Mae Peppa Pig, LOL Dolls, My Little Pony a Mr Men i gyd yn enghreifftiau o gylchgronau plant sy'n aml yn dod gyda theganau plastig am ddim.

"Bydd y teganau yma yn cael eu gwneud yn China, eu lapio mewn plastig, eu rhoi ar baled wedi'u lapio mewn mwy o blastig, eu anfon ar draws y byd heb eu lapio, eu glynu ar gylchgrawn ac yna eu gorchuddio mewn mwy o blastig, ac yna eu cludo i dai," meddai Skye.

"Mae'r ôl-troed carbon yn fawr ac rydych chi'n eu rhoi yn syth yn y sbwriel i lygru'r blaned."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Skye yn poeni am effaith plastig ar yr amgylchedd

Dywedodd Dave, tad Skye, sy'n bostmon, ei fod o hefyd yn poeni am faint o blastig sy'n cael ei ddefnyddio ar y cylchgronau y mae'n eu dosbarthu ar ei rowndiau.

"Dwi'n cofio Skye yn cael hwn [y cylchgrawn] drwy'r drws a dywedodd 'dyna ni', ac ysgrifennodd at y cyhoeddwr," meddai.

"Rydyn ni'n ceisio ailgylchu popeth y gallwn ni. Os welwn ni sbwriel, rydyn ni'n ei godi. Rydyn ni eisiau i'r cyhoeddwyr wneud eu rhan nhw."

Cefnogaeth wleidyddol

Ar ôl i'w deiseb ddenu bron i 3,000 o lofnodion, mae gwleidyddion wedi trafod ei hymgyrch yn y Senedd.

Mae Skye nawr yn paratoi i ysgrifennu at bob ysgol yng Nghymru i dynnu sylw at y mater.

Mae Eluned Morgan, gweinidog Llywodraeth Cymru, wedi ysgrifennu at gyhoeddwyr cylchgronau, tra bod Aelod Seneddol Plaid Cymru Liz Saville-Roberts wedi codi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin.

"Mae'r teganau wedi eu marchnata at blant, sef yr rhai yr ydym yn ceisio amddiffyn eu dyfodol amgylcheddol," meddai Ms Morgan.

"Gall rhai blastigau bara degawdau - os nad canrifoedd - yn ein hamgylchedd. Dylen nhw fod yn gyfeillgar i'r amgylchedd a chyflawni pwrpas addysgol."

Dywedodd Ms Morgan fod yr ymgyrch yn arbennig o "ingol" yn dod gan blentyn sy'n byw mewn cymuned arfordirol sydd dan fygythiad gan newid hinsawdd.

Bydd amddiffynfeydd môr yn Fairbourne yn rhoi'r gorau i gael eu cynnal yn y 2050au ac mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y bydd yn rhaid dechrau symud pentrefwyr allan cyn hynny.

'Cenedl di-wastraff erbyn 2050'

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i "gael gwared ar eitemau untro diangen yn raddol, yn enwedig plastig" mewn ymgais i ddod yn genedl di-wastraff erbyn 2050.

Dywedodd llefarydd: "Gall pobl ifanc fel Skye helpu i newid agweddau, felly gallwn ni gyd ddechrau gwneud y newidiadau sydd eu hangen arnom i gyrraedd ein nod o ddod yn genedl di-wastraff erbyn 2050.

"Rydyn ni hefyd yn gweithio ochr yn ochr â gweinyddiaethau eraill yn y DU, gan gynnwys Llywodraeth y DU, ar ddiwygiadau arfaethedig ar gyfer cyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig (EPR), lle byddai'n ofynnol i gynhyrchwyr pecynnu dalu costau net am reoli unrhyw wastraff plastig maen nhw'n ei greu.

"Byddai hyn yn cynnwys pecynnau plastig sy'n cael eu defnyddio i bacio cylchgronau."

Gofynnwyd am sylw gan Kennedy Publishers.

Pynciau cysylltiedig