'Edrych mla'n i roi'r byd yn ei le yn y salon'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Geinor a GwendaFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Geinor a Gwenda yn brysur yn torri gwallt ddydd Llun wrth i'w salon ailagor

Rydyn ni wedi arfer cysylltu Gwenda Owen a'i merch Geinor gyda'r byd adloniant ond trin gwallt "heb stop" fydd y ddwy yn ei wneud am yr wythnosau nesaf wrth i'w salon ailagor am y tro cyntaf ers misoedd.

"Ry'n ni'n edrych 'mla'n yn fawr iawn," meddai Gwenda Owen wedi i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford gyhoeddi ddydd Gwener bod llefydd trin gwallt yn cael ailagor ar gyfer y rhai sy'n gwneud apwyntiad.

"Ers hynny mae'r ffôn wedi bod yn canu yn ddi-stop," meddai Ms Owen wrth siarad â Cymru Fyw.

"Ro'n ni wedi cael hanner awgrym y bydden i'n cael ailagor ac felly wedi llenwi'r dyddiadur am bythefnos i ddechre ond ers dydd Gwener ni wedi llanw am y mis nesaf.

"Mi fyddwn yn cwrdd â phob gofyn diogelwch wrth gwrs ac yn gwisgo PPE llawn."

'Un cam ar y tro'

Ychwanegodd Gwenda Owen ei bod wedi bod yn gyfnod digon diflas.

Fe agorodd hi a'i merch Geinor Salon y Beudy ym Mhontyberem ym mis Rhagfyr 2019, rhai misoedd cyn y clo cyntaf ym mis Mawrth 2020.

Ffynhonnell y llun, Gwenda Owen
Disgrifiad o’r llun,

'Ni'n dishgwl mla'n yn fawr i gael pobl nôl 'ma," medd Gwenda Owen

"Ond dwi'n lwcus wrth gwrs mai ni sydd ei berchen e - ac yn edrych ymlaen yn fawr i fwrw nôl iddi ddydd Llun.

"Byddwn ni'n dechre am 8:30 ac wrth gwrs bydd y gwaith torri yn fwy na'r arfer gan nad yw pobl wedi bod ers misoedd.

"Ond dwi a Geinor wir yn dishgwl mla'n i weld pobl ac i roi'r byd yn ei le.

"Mae cael torri'r gwallt yn codi calon rhywun ac yn rhoi rhyw hyder newydd yn 'dyw e - fi ddim yn gwybod sawl un sydd wedi bod yn dweud 'fi'n berson newydd' wedi iddyn nhw fod, ac fe fydd hynny yn fwy gwir nag erioed nawr wrth i gymaint o fisoedd basio," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Tinopolis
Disgrifiad o’r llun,

"Un cam ar y tro" yw hi ond mae ailagor y lle gwallt yn cynnig gobaith, medd Gwenda Owen

Mae Salon y Beudy hefyd yn cynnig triniaethau harddwch ond does dim cyhoeddiad hyd yma pryd y bydd modd i'r diwydiant harddwch ailgydio yn eu busnes.

Ychwanegodd Ms Owen: "Un cam ar y tro yw hi, mae wedi bod yn amser rhyfedd iawn i bawb ohonom ond mae'r wythnos yma yn sicr yn rhoi rywfaint o obaith newydd i ni.

"Ni wir yn disghwl mla'n."

Bu'n rhaid i lefydd trin gwallt gau yng Nghymru cyn y Nadolig - rai dyddiau cyn i Gymru wynebu cyfnod clo lefel 4 ar 28 Rhagfyr.

Mae disgwyl y bydd holl siopau Cymru yn agor ar 12 Ebrill fel ag yn Lloegr, ond bydd archfarchnadoedd yn cael gwerthu nwyddau na sy'n angenrheidiol o ddydd Llun 22 Mawrth.

Wrth gael ei holi ddydd Sul dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters, bod hynny wedi bod yn benderfyniad anodd i weinidogion ond yn un ymarferol.

"Gallwn fod wedi aros tair wythnos arall cyn rhoi hawl i archfarchnadoedd werthu popeth ond mae nifer wedi cysylltu gyda ni yn pryderu nad ydynt wedi cael prynu popeth ers misoedd.

"Gan bod archfarchnadoedd eisoes ar agor ac yn ufuddhau i orchymynion diogelwch y teimlad oedd mai dyma'r symudiad â lleiaf o risg ar hyn o bryd," meddai.

Ddydd Gwener dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd £150m yn ychwanegol o arian ar gael i fusnesau sydd ar eu colled.

Pynciau cysylltiedig