Y chwilio preifat am bysgotwyr coll i ddechrau'n fuan
- Cyhoeddwyd

Roedd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath ar gwch y Nicola Faith pan aeth ar goll
Mae disgwyl i'r chwilio preifat am dri physgotwr a chwch a ddiflannodd oddi ar arfordir y gogledd ddechrau'r wythnos hon.
Fe fethodd y Nicola Faith â dychwelyd i harbwr Conwy ar 27 Ionawr.
Daeth y chwilio am Ross Ballantine, 39, Alan Minard, 20, a Carl McGrath, 34, i ben ddeuddydd yn ddiweddarach.
Mae David Mearns, sy'n arbenigo ar ganfod gweddillion yn y dŵr, yn rhoi cyngor technegol i'r teuluoedd.
Mr Mearns a ddaeth o hyd i weddillion yr awyren a oedd yn cludo y pêl-droediwr Emiliano Sala.

Cafwyd hyd i rafft achub y Nicola Faith ddechrau Mawrth oddi ar arfordir Yr Alban
Dywedodd Mr Mearns: "Rwy' dal yn hyderus bod modd dod o hyd i'r cwch er bod y broses o chwilio yn ddibynnol i raddau helaeth ar y tywydd.
"Gyda'r math o sonar ry'n ni'n ei ddefnyddio mae ansawdd y canlyniadau yn gysylltiedig â pha mor dawel yw'r tywydd. Mae disgwyl llanw uchel yn ystod y dyddiau nesaf a gwynt."
Bellach mae £52,000 wedi'i godi gan deuluoedd y pysgotwyr coll - digon i ariannu cwch, tîm ac offer arbenigol i chwilio am y cwch.
'Haelioni'r gymuned'
Cafwyd hyd i rafft bywyd y cwch oddi ar arfordir Yr Alban ddechrau Mawrth ac mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cadarnhau mai rafft y Nicola Faith a ddarganfuwyd.
Mae'r MAIB hefyd yn cynnal ymchwiliad ond gobaith y teuluoedd yw y bydd ymchwiliad preifat yn cynnig arbenigedd ychwanegol.
Dywed Nathania, Mam Mr Minard: "'Da ni mor ddiolchgar am gefnogaeth a haelioni y gymuned.
"Mae yna lawer o weithgareddau wedi bod i godi'r arian ac mae hynna yn ei hun yn dod â chysur a nerth i deuluoedd."

Fe ddaeth David Mearns o hyd i weddillion yr awyren oedd yn cludo y pêl-droediwr Emiliano Sala
Mae rhan helaeth o'r arian sydd wedi cael ei godi wedi'i roi gan unigolion.
Mae cefnogwyr hefyd wedi bod yn cynnal raffl, marathon rhithwir a digwyddiadau nodedig fel eillio pennau.
Un arall sydd wedi rhoi cefnogaeth i'r teuluoedd yw'r comedïwr a'r awdur Michael Palin a ddywedodd: "Rwy'n deall yn iawn nad yw'r teuluoedd am roi'r gorau i'r chwilio os oes unrhyw siawns o ddod o hyd i weddillion y cwch a'r pysgotwyr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2021