'Roedd fy ngŵr yn edrych ar luniau anweddus ar-lein'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn cael eu hannog i geisio adnabod yr arwyddion os ydy aelodau o'u teuluoedd eu hunain yn edrych ar luniau anweddus.
Mae nifer y galwadau i linell gymorth sy'n ymwneud ag atal camdriniaeth ar-lein wedi cynyddu bron i 50% yn ystod y pandemig.
Dywedodd Stop it Now!, y corff sy'n rhedeg y gwasanaeth, ei bod yn bosib fod ymddygiad o'r fath wedi dod i'r amlwg wrth i deuluoedd dreulio mwy o amser gyda'i gilydd.
Mae Sarah - nid ei henw iawn - o Gymru wedi rhannu ei stori hi gyda BBC Cymru gan obeithio y gallai helpu eraill.
'Doedd gen i ddim syniad'
Roedd Sarah wedi bod yn briod â'i gŵr am 25 mlynedd, ond bum mlynedd yn ôl cafodd ei arestio am fod â lluniau anweddus yn ei feddiant.
"Doedd gen i ddim syniad beth oedd e'n ei wneud nes i'r heddlu ddod i'n cartref yn gynnar un bore," meddai.
"Roedd e'n amlwg yn deall beth oedd yn mynd 'mlaen, oherwydd roedd e'n dweud 'Dydw i ddim yn bedoffeil'."
Fe wnaeth Sarah siarad gyda'i gŵr yng ngorsaf yr heddlu yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ac fe gyfaddefodd ei fod wedi bod yn edrych ar luniau anghyfreithlon am ddwy flynedd.
"Roeddwn i mewn sioc," meddai Sarah.
"Pan wnes i ddarganfod yr hyn roedd e wedi'i wneud, daeth ein priodas i ben yn syth."
Fe wnaeth hi ddechrau'r broses o ysgaru, a bu'n rhaid i Sarah dorri'r newyddion i'w dwy ferch, oedd yn y brifysgol ar y pryd.
"Roedd dweud wrth y merched yn ofnadwy - a bu'n rhaid i mi wneud hynny dros y ffôn," meddai.
"Roedd gen i ofn, os na fydden i yn dweud wrthyn nhw, y gallen nhw glywed am y peth ar y cyfryngau cymdeithasol."
Mae'r ddwy ferch wedi adfer eu perthynas gyda'u tad erbyn hyn, ond mae Sarah, sydd bellach wedi ailbriodi, yn dweud bod ei phrofiadau yn dal i gael effaith arni hyd heddiw.
"O edrych yn ôl rwy'n deall y dylen i fod wedi bod yn llai naïf ac yn fwy gwyliadwrus," meddai.
Dywedodd ei bod yn bwysig fod pobl yn gweithredu os oes ganddyn nhw amheuon, hyd yn oed am eu teuluoedd eu hunain, a bu'n rhoi clod i elusen Stop it Now! am eu cymorth nhw.
'Newid ymddygiad'
Yr elusen ydy'r llinell gymorth gyntaf yn y DU sy'n helpu atal camdriniaeth rhyw yn erbyn plant trwy roi cymorth i oedolion sy'n pryderu am eu hymddygiad eu hunain.
Dywedodd cyfarwyddwr y rhaglen, Donald Findlater ei fod yn annog unrhyw un sy'n amau eu bod yn adnabod rhywun sydd wedi bod yn edrych ar luniau anweddus o blant i ffonio'r llinell gymorth.
"Oherwydd y pandemig, mae teimladau o unigrwydd, pwysau ac ansicrwydd yn gallu arwain at newid yn ymddygiad pobl, ac o bosib, ymddwyn yn anghyfreithlon ar-lein," meddai.
"Gall fod yn anodd adnabod yr arwyddion ond fe allen nhw gynnwys bod yn fwy cyfrinachol gyda'u dyfeisiau, a'u defnyddio ar adegau od - fel yn gynnar yn y bore."
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Simon Bailey o Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu: "Dylai unrhyw un sy'n meddwl am blant yn amhriodol, neu unrhyw un sy'n credu ei bod yn bosib fod aelod o'r teulu'n gwneud hynny, gysylltu â Stop it Now! am gymorth.
"Fel arall fe ddylen nhw ddisgwyl ymweliad gan swyddogion yr heddlu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018
- Cyhoeddwyd1 Medi 2016