Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-2 Eastleigh
- Cyhoeddwyd
Sgôr cyfartal oedd y canlyniad yn gêm y Gynghrair Genedlaethol rhwng Wrecsam ac Eastleigh yn y Cae Ras.
Joe Tomlinson sgoriodd yn gyntaf yn saethu gôl o bell i mewn i'r gornel.
Daeth y ddau dîm yn gyfartal yn dilyn gôl Reece Hall-Johnson, ond cafodd Fiacre Kelleher gerdyn coch ar ôl yr egwyl, yn rhoi'r fantais i Eastleigh.
Sgoriodd Tomlinson ail gôl ar ôl cael cic gosb, ond er gwaetha cerdyn coch Wrecsam sicrhaodd gôl Kwame Thomas bwynt ychwanegol i'r deg chwaraewr.
Mae'r gêm yn golygu bod Wrecsam yn aros yn bedwerydd yn y Gynghrair Genedlaethol ac mae Eastleigh yn symud lawr i'r nawfed safle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2021