Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth 'amheus' yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Churchill
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad am 09:30 fore Mercher

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i farwolaeth dyn mewn adeilad ar Ffordd Churchill yng Nghaerdydd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad am 09:30 fore Mercher.

Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Mae'r llu'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr achos neu oedd yn yr ardal nos Fawrth neu fore Mercher i gysylltu ar 101 a nodi'r cyfeirnod 2100092541.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd timau fforensig eu gweld yn yr ardal ddydd Mercher

Pynciau cysylltiedig